Actor Cymreig yw
Robert Gwilym
(ganwyd
2 Rhagfyr
1956
), a adnabyddir weithiau fel
Bob Gwilym
.
[1]
Ganwyd Robert Gwilym yng
Nghastell-nedd
,
Sir Forgannwg
, lle'r oedd ei deulu yn berchen ar gadwyn o siopau dillad isaf. Mae ei frawd,
Mike Gwilym
, hefyd wedi gwneud ei enw fel actor.
Mae Robert Gwilym wedi ymddangos mewn nifer fawr o sioeau teledu, yn cynnwys
The Bill
,
Ultimate Force
,
Soldier Soldier
,
Coronation Street
,
London's Burning
,
Dancing at Lughnasa
, a
The Professionals
ac yn adnabyddus iawn am chwarae Max Gallagher yn
Casualty
o 1998-2002. Mae ei waith radio yn cynnwys chwarae Corporal Carrot yn addasiad
BBC Radio 4
o nofel Discworld Terry Pratchett,
Guards!Guards!
. Fe wnaeth Gwilym hefyd serennu gyferbyn a'i frawd Mike yn ffilm Andrew Grieve o 1987,
On the Black Hill
, a seiliwyd ar
nofel
Bruce Chatwin
.
[2]
Yn 2013, chwaraeodd ran Frank Bowman yn nrama llwyfan gyntaf
Ian Rankin
Dark Road
.
[3]