Robat Powell

Oddi ar Wicipedia
Robat Powell
Dinasyddiaeth Baner Cymru  Cymru

Bardd ac Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1985 yw Robat Powell . Mae'n dod yn wreiddiol o Lynebwy . [1] Ef oedd y dysgwr cyntaf i ennill y Gadair mewn Eisteddfod Genedlaethol gyda'i awdl 'Cynefin'.

Cafodd yrfa yn y byd addysg. Mae'n diwtor ar ddosbarth cynghanedd Cwm Tawe .

Rhwng 2013 a 2022 Robat oedd arweinydd Capel y Nant , Clydach . Ef hefyd yw ysgrifennydd yr eglwys.

Yn 2024, roedd e'n byw yn Nhreforys . [2]

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

  • Haearn Iaith ( Gwasg Gomer , 1996)
  • Cyfres Lleisiau: Pwy yw Tom Cruise? (CAA Cymru, 2006)
  • Cyfres Lleisiau: Am Enw! (CAA Cymru, 2006)
  • Yn y Canol (CAA Cymru, 2007)
  • Cyfres Lleisiau: Helynt Haf (CAA Cymru, 2007)
  • Cyfres Tonic 5: O'r Newydd (CAA Cymru, 2007)
  • Cyfres Tonic 5: O'r Galon (CAA Cymru, 2007)
  • Tymor da ( Cyhoeddiadau Barddas , 2024)

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Robat Powell" . Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod . Cyrchwyd 16 Mawrth 2024 .
  2. Powell, Robat (2024). Tymor Da . Cyhoeddiadau Barddas.