한국   대만   중국   일본 
Rio Grande - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Rio Grande

Oddi ar Wicipedia
Rio Grande
Math afon   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Mecsico Newydd   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Mecsico  Mecsico
Baner UDA  UDA
Cyfesurynnau 37.7978°N 107.5384°W, 25.9562°N 97.1452°W  Edit this on Wikidata
Aber Gwlff Mecsico   Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Pecos, Rio Conchos, Alamito Creek, Afon Alamosa, Chacon Creek, Afon Conejos, Culebra Creek, Rio Salado, Afon Jemez, Afon Red, Rio Chama, Rio Hondo, Rio Pueblo de Taos, Rio Puerco, Rio Salado, San Francisco Creek, San Ildefonso Creek, Santa Isabel Creek, Sombrerillito Creek, Terlingua Creek, Zacate Creek, South Fork Rio Grande, Trinchera Creek, Afon Santa Fe, Maravillas Creek, Rio San Juan (Nuevo Leon), Galisteo Creek  Edit this on Wikidata
Dalgylch 471,900 cilometr sgwar  Edit this on Wikidata
Hyd 3,051 cilometr  Edit this on Wikidata
Arllwysiad 85 metr ciwbic yr eiliad  Edit this on Wikidata
Map
Dalgylch y Rio Grande

Afon yn Unol Daleithiau America a Mecsico yw'r Rio Grande , a adnabyddir ym Mecsico fel y Rio Bravo del Norte neu Rio Bravo . Hu yw'r bedwaredd hwyaf ymhlith afonydd yr Unol Daleithiau.

Ceir tarddle'r afon yn Fforest Genedlaethol y Rio Grande yn nhalaith Colorado . Mae'n llifo tua'r de trwy dalaith New Mexico . Wedi croesi i dalaith Texas ger El Paso , mae'n llifo tua'r de-ddwyrain gan ffurfio'r ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yr holl ffordd i'w haber yng Ngwlff Mecsico . Ymhlith yr afonydd sy'n llifo i mewn iddi mae'r Rio Conchos ac afon Pecos .

Y prif groesfannau dros yr afon rhwng y ddwy wlad yw Ciudad Juarez ac El Paso; Presidio, Texas , ac Ojinaga, Chihuahua ; Laredo, Texas , a Nuevo Laredo, Tamaulipas ; McAllen-Hidalgo, Texas , a Reynosa, Tamaulipas ; a Brownsville, Texas , a Matamoros, Tamaulipas .

Y Rio Grande rhwng Matamoros (de) a Brownsville (chwith)