Safle natur sy'n dod dan lefel isaf
cadwraeth
yng ngwledydd
Prydain
yw
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
(neu SoDdGA;
SSSI
yn Saesneg) a chant eu dosbarthu i
Ardaloedd Ymchwil
. Mae pob SoDdGA yn dynodi safle sydd a bywyd gwyllt bregys (planhigion, anifeiliaid prin), daeareg neu forffoleg arbennig neu gyfuniad o'r ddau hyn: natur gwyllt a nodweddion daearegol. Yn 2006 roedd 1,019 SoDdGA yng Nghymru: cyfanswm o 257,251 hectar (12.1% o holl arwynebedd Cymru).
[1]
Datblygwyd y dull hwn o glystyru SoDdGAau rhwng 1975 a 1970, yn wreiddiol gan y
Nature Conservancy Council
(NCC)
, gan gadw at ffiniau Deddf Llywodraeth Leol 1972.
[2]
Cadwyd at ffiniau siroedd Lloegr ond yng Nghymru cymhlethwyd y sefyllfa drwy ychwanegu cynghorau dosbarth at rai siroedd a rhannu eraill. Unwyd Canol a De Morgannwg, holltwyd Gwynedd a Phowys ac unwyd Llanelli gyda Gorllewin Morgannwg.
Ers 1972 cafwyd llawer o ailenwi, uno a rhannu siroedd, cynghorau dosbarth a chymuned. Er mwyn symlhau'r ardaloedd hyn, ailddiffiniwyd hwy gan
Gyngor Cefn Gwlad Cymru
dan
Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
yn Ebrill 1996.
Mae Ardal Ymchwil Brycheiniog, bellach, o fewn Ardal Ymchwil Powys.
Rhestr o rai o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym Mhowys
[
golygu
|
golygu cod
]
- ↑
Joint Nature Conservation Committee (1998 revision);
Guidelines for the Selection of Biological SSSIs
, section 4.11, p. 17.
ISBN 1873701721
.
- ↑
Joint Nature Conservation Committee (1998 revision)
;
Guidelines for the Selection of Biological SSSIs
, rhan 4.5, tud. 14?15.
ISBN 1873701721
.