한국   대만   중국   일본 
Rhagfynegiad - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Rhagfynegiad

Oddi ar Wicipedia
Cwmwl Cirrocumulus , neu 'Awyr dywod'), sy'n arwydd pendant, yn ol yr hen bobl, y daw glaw ymhen diwrnod neu ddau.

Yn gyffredinol, ar lafar gwlad, gall rhagfynegi olygu rhagweld digwyddiad arbennig megis diffyg ar yr haul ; mewn mathemateg, fodd bynnag, mae'n ymwneud a thebygolrwydd , a'i ddiffiniad yn fwy gwyddonol e.e. rhagfynegi'r tebygolrwydd ei bod am lawio ar ddiwrnod y Cadeirio yn yr Eisteddfod.

Mewn barddoniaeth [ golygu | golygu cod ]

Corff o gerddi Cymraeg traddodiadol sy'n darogan dyfodol y Brythoniaid / Cymry ac yn eu hatgoffa o'u gorffennol yw'r 'Canu Darogan', a elwir hefyd yn Ganu Brud neu'r Brudiau . Gorwedd gwreiddiau'r canu arbennig hwn yn ol ym myd y Celtiaid . Blodeuodd y traddodiad yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol , yn enwedig gyda dyfodiad y Normaniaid ac yn y cyfnod ar ol goresgyniad Tywysogaeth Cymru hyd at gyfnod Owain Glynd?r ac ymgyrch Harri Tudur . Y ffigwr canolog yn y traddodiad oedd y Mab Darogan , a fyddai'n dychwelyd i waredu'r Cymry a gyrru'r Saeson allan o Ynys Brydain . Yr enw arferol ar y beirdd darogan yw 'daroganwyr' neu 'frudwyr'. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi darogan yn waith beirdd di-enw a ddadogir ar Myrddin a Taliesin ac eraill, ond ceir nifer o gerddi gan feirdd wrth eu crefft hefyd, o gyfnod Beirdd yr Uchelwyr .

Ceir yr enghraifft fwyaf adnabyddus, efallai, yn y gan darogan a adweinir fel 'Yr Awdl Fraith'. Roedd y gerdd honno, a dadogir ar y bardd Taliesin , ymhlith y mwyaf poblogaidd o'r brudiau yn yr Oesoedd Canol Diweddar . Yn ail ran y gerdd sonnir am y Saeson yn meddianu'r tir a'r Brythoniaid yn ffoi i'r gorllewin:

Sarffes gadwynog, falch anhrugarog, a'i hesgyll yn eurog, o Sermania .
Honno a oresgyn Lloegr a Ffrydyn o lan mor Llychlyn hyd Sabrina .
Yna y bydd Brython fal carcharorion mewn braint alldudion i'r Sacsonia .
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant, a'u tir a gollant onid gwyllt Walia . [1]

Y tywydd [ golygu | golygu cod ]

Math o ragfynegi yw rhagweld y tywydd, fel a geir heddiw ar y teledu. Mae'r grefft o wneud hyn yn llawer h?n na'r oes dechnolegol hon, fodd bynnag, fel y gwelir mewn dyddiaduron amgylcheddol Cymreig , a oedd yn gymorth i'r ffermwr gofio digwyddiadau megis pa ddiwrnod y cafwyd rhew neu eira cynta'r flwyddyn. Er mwyn helpu'r cof, trowyd llawer o'r rhain yn ddywediadau bachog e.e. "Awyr draeth, glaw drannoeth" (a gofnodwyd gyntaf yn Llanfair Mathafarn Eithaf ) sy'n golygu: os yw'r cymylau'n edrych fel tywod ar draeth (ar ffurf sgwigl tonnog) yna fe ddaw glaw y diwrnod wedyn.

Mewn mathemateg [ golygu | golygu cod ]

Er fod rhagweld digwyddiadau yn y dyfodol yn ansicr, fe'i defnyddir oddi fewn i ystadegaeth i gynorthwyo'r broses o gynllunio, a hynny mewn modd ymarferol. Mewn mathemateg, defnyddir y term rhagfynegi yn hyrach na'r termau uchod. Mae'n rhan o ystadegaeth gasgliadol , ac un o'r adrannau oddi fewn i'r maes hwnnw yw "rhagfynegi casgliadol" ( predictive inference ), ond defnyddir rhagfynegi yn ehangach na hyn odi fewn i ystadegaeth gasgliadol. Pan fo amser yn chwarae rhan yn y broses ystadegol o ddod i gasgliad, yna fe'i gelwir yn forcasting (dim term Cymraeg).

Mewn gwyddoniaeth [ golygu | golygu cod ]

Mae rhagfynegi, i'r gwyddonydd , fel arfer, yn ymwneud a maint, a "beth ddigwyddith os newidir yr amodau...?"

Mae'n anodd iawn rhagfynegi'n gywir ar adegau e.e. twf poblogaeth , trychinebau naturiol fel daeargrynfeydd , pandemics neu swnamis . Mae eraill yn haws: cylchoedd solar, ymweliad comed , machlud y lloer ayb.

Mae gwyddoniaeth yn hwyluso'r gwaith o ragfynegi'n gywir. Wrth i ddamcaniaethau newydd cant yn aml eu gwrthbrofi gan realaeth e.e. mae rhagfynegi strwythur grisial ar lefel atomig yn sialens enfawr (2019). [2]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 'Yr Awdl Fraith', testun Elis Gruffydd , Ystoria Taliesin gol. P.K. Ford (Caerdydd, 1992), tud. 86.
  2. Woodley, S.M.; Catlow, R. (2008), "Crystal structure prediction from first principles" , Nat Mater 7 (12): 937?946 , https://dx.doi.org/10.1038/nmat2321