Radu Lupu
|
---|
|
Ganwyd
| 30 Tachwedd 1945
Gala?i
|
---|
Bu farw
| 16 Ebrill 2022
Lausanne
|
---|
Label recordio
| Decca Records
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Rwmania
|
---|
Alma mater
| - Prifysgol Moscaw
|
---|
Galwedigaeth
| pianydd
,
cerddor
|
---|
Arddull
| cerddoriaeth glasurol
|
---|
Priod
| Elizabeth Wilson, Delia Bugarin
|
---|
Gwobr/au
| CBE, Urdd seren Romania
|
---|
Pianydd o
Rwmania
oedd
Radu Lupu
CBE (
30 Tachwedd
1945
-
17 Ebrill
2022
) sy'n cael ei gydnabod fel un o bianyddion mwyaf y byd.
[1]
[2]
[3]
Cafodd Lupu ei eni yn Gala?i, Rwmania. Dechreuodd ef astudio piano yn chwech oed. Roedd ei athrawon yn cynnwys Florica Musicescu, Dinu Lipatti, a Heinrich Neuhaus (athro
Sviatoslav Richter
). Rhwng 1966 a 1969, enillodd dair o gystadlaethau piano mwyaf mawreddog y byd: Cystadleuaeth Piano Ryngwladol Van Cliburn (1966), Cystadleuaeth Piano Ryngwladol George Enescu (1967), a Chystadleuaeth Pianoforte Ryngwladol Leeds (1969).
Priododd a'r sielydd Elizabeth Wilson (ganwyd 1947), merch y diplomydd Syr Duncan Wilson, ym 1971.
[4]
Bu'n byw yn
Lausanne
, y Swistir, gyda'i ail wraig Delia, feiolinydd.
[5]
Bu farw yn 76 oed.
[6]