Sefydlwyd
Radio Mediterranee Internationale
(
Medi 1 Radio
) yn 1980 gan bartneriaeth o gwmniau o
Ffrainc
a
Moroco
i gynnig gwasanaeth
radio
dwyieithog -
Arabeg
a
Ffrangeg
- i fasn orllewinol y
Mor Canoldir
, gan ganolbwyntio'n neilltuol ar wledydd y
Maghreb Mawr
, sef Moroco,
Algeria
,
Tiwnisia
,
Mauretania
, a
Libia
.
[1]
Mae'r orsaf yn disgrifrio ei hun fel "
La radio du grand Maghreb
" ('Radio'r Maghreb Mawr'). Ei harwyddair yw: "
Une radio, deux langues
" ('Un radio, dwy iaith').
[2]
Mae'r orsaf yn darlledu 24 awr y dydd yn Arabeg a Ffrangeg. Lleolir y stiwdio yn
Tanger
, Moroco. Mae'n darlledu ar y tonfeydd byr a hir ac mae ar gael hefyd ar y rhyngrwyd. Yn ogystal a'r Maghreb Mawr, gellir gwrando Medi 1 yn
Sbaen
, de Ffrainc a'r
Eidal
. Yn ol ystadegau'r orsaf, mae ganddi gynulleidfa o ryw 22-23 miliwn o wrandawyr sy'n codi i tua 25 miliwn yng ngwyliau'r haf.
[1]