Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fd/International_Committee_of_the_Red_Cross%2C_Geneva_%2846907115094%29.jpg/220px-International_Committee_of_the_Red_Cross%2C_Geneva_%2846907115094%29.jpg) |
![](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Emblem_of_the_ICRC.svg/220px-Emblem_of_the_ICRC.svg.png) |
Enghraifft o'r canlynol
| international non-governmental organization
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Rhan o
| Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Dechrau/Sefydlu
| 17 Chwefror 1863
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Sylfaenydd
| Henry Dunant, Guillaume Henri Dufour, Gustave Moynier, Louis Appia, Theodore Maunoir
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Aelod o'r canlynol
| Memoriav, DLM Forum
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gweithwyr
| 25
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Rhiant sefydliad
| Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Ffurf gyfreithiol
| association
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Pencadlys
| Genefa
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwladwriaeth
| Y Swistir
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Rhanbarth
| Genefa
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Gwefan
| https://www.icrc.org
,
https://www.icrc.org/es
,
https://www.icrc.org/fr
,
https://www.icrc.org/pt
,
https://www.icrc.org/zh
,
https://www.icrc.org/ar
,
https://www.icrc.org/ru
,
https://www.icrc.org/de
,
https://www.icrc.org/it
,
https://jp.icrc.org/
,
https://kr.icrc.org/
![Edit this on Wikidata](//upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg/10px-OOjs_UI_icon_edit-ltr-progressive.svg.png) |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
|
Mae
Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch
(Talfryiad
Saesneg
: ICRC; enw
Ffrangeg
:
Comite international de la Croix-Rouge
) yn sefydliad sydd a chenhadaeth ddyngarol yn unig i amddiffyn dioddefwyr rhyfel a thrais mewnol, yn ogystal a darparu cymorth iddynt. Mae pencadlys y pwyllgor yn y
Swistir
, yn ninas
Genefa
.
Mewn sefyllfaoedd o wrthdaro, mae'n cyfarwyddo ac yn cydlynu gweithgareddau rhyddhad rhyngwladol
Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch
. Mae hefyd yn ceisio atal dioddefaint trwy hyrwyddo a chryfhau cyfraith ac egwyddorion dyngarol cyffredinol. O'r pwyllgor, a sefydlwyd ar 26 Hydref 1863, datblygodd y Mudiad yn ei dro.
Mae partion gwladwriaeth (llofnodwyr)
Confensiwn Genefa
1949 a’i Brotocolau Ychwanegol 1977 (Protocol I, Protocol II) a 2005 wedi rhoi mandad i’r Pwyllgor amddiffyn dioddefwyr gwrthdaro arfog rhyngwladol a mewnol. Mae dioddefwyr o'r fath yn cynnwys pobl a anafwyd gan ryfel, carcharorion, ffoaduriaid, sifiliaid, a phobl eraill nad ydynt yn ymladd.
[1]
Mae'r pwyllgor yn rhan o
Fudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch
, ynghyd a Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau'r Groes Goch a'r Cilgant Coch (IFRC) a 192 o Gymdeithasau Cenedlaethol.
[2]
Dyma'r sefydliad hynaf a mwyaf anrhydeddus o fewn y mudiad ac un o'r sefydliadau a gydnabyddir fwyaf yn y byd, ar ol ennill tair
Gwobr Heddwch Nobel
(yn 1917, 1944, a 1963).
[3]
Cydweithio traws-sefydliadol
[
golygu
|
golygu cod
]
Mae Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch yn cwmpasu'r holl sefydliadau sy'n ymwneud a'r Groes Goch a'r Cilgant Coch, sef:
- Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC).
- Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau'r Groes Goch a'r Cilgant Coch (IFRC).
- Cymdeithasau'r Groes Goch Genedlaethol a'r Cilgant Coch .
Aeloda sefydlu Pwyllgor Ryngwladol y Groes Goch
Baner y Groes Goch
Cyrff llywodraethu’r Pwyllgor yw:
- Y Cynulliad
: yn cynnwys rhwng pymtheg a phump ar hugain o bobl sy'n cael eu recriwtio trwy gyfethol ymhlith dinasyddion y Swistir. Dyma awdurdod uchaf y Pwyllgor ac mae ei lywydd hefyd ar y Pwyllgor.
- Cyngor y Cynulliad
: yn cynnwys pum aelod a etholwyd gan y Cynulliad a llywydd y Pwyllgor. Mae'n gweithredu rhwng sesiynau'r Cynulliad ac yn gyfrifol am y cyswllt rhyngddo a Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
- Y Bwrdd
yw corff gweithredol y Pwyllgor. Mae'n gyfrifol am weithredu penderfyniadau'r Cynulliad a gweinyddiaeth y Pwyllgor. Mae'n cynnwys y cyfarwyddwr cyffredinol a thri chyfarwyddwr arall, pob un wedi'i benodi gan y Cynulliad.
- Y Llywyddiaeth
: yn cynnwys y llywydd a'r is-lywydd. mae'r Llywydd yn cynrychioli'r sefydliad ar y lefel ryngwladol ac mae hefyd yn delio a chydlynu mewnol. Mae'n cael cymorth gan yr Is-lywydd.
- Yr Uned Archwilio Mewnol
: corff rheolaeth fewnol sy’n goruchwylio datblygiad ac effeithiolrwydd y sefydliad yn annibynnol ac yn wrthrychol.
Yn ol statudau'r pwyllgor, rhaid i bob aelod o'r cyrff llywodraethu fod yn ddinasyddion Swistir.
Sefydlwyd y sefydliad ar fenter Jean Henri Dunant, ym 1863, dan yr enw y Pwyllgor Rhyngwladol ar Gymorth i'r Milwrol Clwyfedig, newid enw, o 1876, i Bwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch.
Gwnaeth y cymorth i garcharorion rhyfel gynnydd mawr o 1864, pan sefydlwyd
Confensiwn Genefa
, i wella amodau i amddiffyn y clwyfedig, ac yn 1899, pan gynhaliwyd Confensiwn yr Hag, a ddisgyblodd “normau” tir a mor rhyfela.
Ar hyn o bryd, mae'r pwyllgor nid yn unig wedi cyfyngu ei hun i amddiffyn carcharorion milwrol, ond hefyd carcharorion sifil mewn sefyllfaoedd o ryfel neu mewn cenhedloedd sy'n torri'r Statud
Hawliau Dynol
. Mae hefyd yn ymwneud a gwella amodau cadw, gwarantu cyflenwad a dosbarthiad bwyd i ddioddefwyr gwrthdaro sifil, darparu cymorth meddygol a gwella amodau glanweithdra, yn enwedig mewn gwersylloedd ffoaduriaid neu garcharorion.
Mae hefyd wedi gweithredu fel cymorth i ddioddefwyr trychinebau naturiol, megis llifogydd,
daeargrynfeydd
,
corwyntoedd
, yn enwedig mewn cenhedloedd sydd heb eu hadnoddau eu hunain i gynorthwyo dioddefwyr.
Mae Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch yn seiliedig ar yr egwyddor o niwtraliaeth, peidio a chymryd rhan mewn materion milwrol neu wleidyddol , er mwyn bod yn deilwng o ymddiriedaeth y partion mewn gwrthdaro a thrwy hynny arfer ei weithgareddau dyngarol yn rhydd.
Aelodau sefydlu'r pwyllgor oedd:
- Gustave Moynier
- Henri Dunant
- Guillaume-Henri Dufour
- Louis Appia
- Theodore Maunoir
Derbyniodd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch Wobr Heddwch Nobel yn 1901 , 1917 , 1944 a 1963 . Roedd yr un yn 1901 ar gyfer crewr y sefydliad o ganlyniad i'w ymdrechion i helpu milwyr i beidio a dioddef ar ol gwrthdaro. Rhoddwyd gwobr 1917 yn bennaf am gludo milwyr clwyfedig i'w mamwlad drwy'r Swistir. Ym 1944 derbyniodd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch y Wobr Nobel am ei weithgareddau dyngarol helaeth a'i wasanaethau i garcharorion rhyfel. Yn olaf, y wobr ddiwethaf a dderbyniwyd gan y sefydliad hwn oedd ym 1963 am fod wedi helpu mewn gwrthdaro mawr ar y pryd fel Algeria, y Congo a Tibet.
Derbyniodd hefyd Wobr Balzan yn 1996.
Ac yn 2013, derbyniodd Wobr Ryngwladol Jaime Brunet am hyrwyddo hawliau dynol.
[4]
[5]
[6]