Planhigyn
blodeuol
ydy
pupur du
(Lladin:
Piper nigrum
, Saesneg:
black pepper
) yn nheulu'r
Piperaceae
, ac sy'n cael ei dyfu a'i gynaeafu er mwyn ei
ffrwyth
. Fel arfer, caiff ei sychu a'i ddefnyddio fel
sbeis
i roi blas da ar fwyd. Pan fo'r ffrwyth wedi ei sychu, gelwir ef yn gornpupur (
peppercorn
) oddeutu 5 mm o ran hyd ac o liw coch tywyll pan fo'n aeddfed.
Mae'r ffrwythau hyn yn cael eu rhoi drwy felin bupur er mwyn creu llwch ar gyfer y gegin, neu'n uniongyrchol i'r cwsmer eu malu ar ffurf 'peppercorns' sy'n cynnwys un
hedyn
. Maent o liwiau amrywiol, a cheir: pupur gwyn, pupur coch, pupur pinc a phupur gwyrdd. Y term arferol amdanynt ydy pupur.
O Dde
India
y dont yn wreiddiol; (Tamil: milagu, ?????; Kannada: meNasu, ?????; Malayalam: kurumulaku, ?????????; Telugu: miriyam, ??????; Konkani: miriya konu;) ac mae'n cael ei dyfu ymhobman yno, a mannau trofannol eraill. Caiff ei dyfu hefyd yn ardal Coorg o
Karnataka
.
Mae blawd sych y pupur du yn un o brif sbeisys coginio Ewropeaidd, bellach, oherwydd cryfder ei flas ac oherwydd y rhinweddau meddygol sydd ynddo oherwydd y cemegolyn "piperine". Yn aml, fe gynigir i'r bwytawr, wrth ochr y cynhwysyn pupur lestr arall yn dal
halen
.
Yn draddodiadol yng Nghymru, defnyddir pupur i wella:
ffliw
,
llosg eira
,
tyndra'r cyhyrau
(cramp) a
chylchrediad y gwaed
.
Fe ddaw'r meddyginiaethau cynharaf sy'n cynnwys pupur o
Ayurveda
,
Siddha
a meddygaeth
Unanio
India
. Yn y 5g sgwennwyd llyfr yn Persia yn dwyn y teitl, "Llyfr Syriac o Feddyginiaethau", a oedd yn cynnwys:
rhwymedd
,
dolur rhydd
,
pigyn clust
,
gangrin
,
afiechyd ar y galon
,
torri'r lleng-gig
,
diffyg traul
,
pigiadau pryfaid
,
diffyg cwsg
,
cymalau ystyfnig
,
problemau'r afu
,
y ddannodd
ayb.
Does yr un o'r rhain wedi ei brofi, ond ceir tystiolaeth fod piperine yn cynyddu'r raddfa yr amsugnir y canlynol i'r corff:
seleniwm
,
fitamin B
a
beta-carotene
yn ogystal a mwynau eraill.
[1]
- ↑
Gweler "Handbook of Alternative Cash Crops" gan James A. Duke; cyhoeddwyd gan CRC Press; dyddiad: 1993-08-16; isbn=0849336201; tudalen 395