Y ddinas fwyaf yn
Istria
,
Croatia
, yw
Pula
(
Lladin
:
Colonia Pietas Iulia Pola Pollentia Herculanea
;
Eidaleg
:
Pola
;
Slofeneg
:
Pulj
), saif ar ben deheuol
gorynys
Istria
, gyda phoblogaeth o tua 62,080 (yn 2006). Fel gweddill yr ardal, adnabyddir Pula am ei hinsawdd dyner, mor dof, a'i thirlun. Mae gan y ddinas draddodiad hir o greu gwin, pysgota, adeiladu llongau, a thwristiaeth. Mae hi hefyd yn brif ganolfan weinyddol Istria ers amser y Rhufeinwyr.
Tua 1800-1000 C.C.C., daeth math newydd o dref i Istria, y 'gradine', neu
Bryngaer
. Proto Illyriaid yw enw'r trigolion o'r 10g CC. Gorchfygwyd yr ardal gan y Rhufeinwyr yn 177 C.C.C., a daeth yn ddinas Rufeinig yn 46-45 CC o dan
Julius Caesar
. Tyfodd hyd at 30,000 o drigolion. Roedd yn borthladd sylweddol ac ailadeiladwyd hi dan merch Octavian, Iulia, a chafwyd yr enw Lladin
Colonia Pietas Iulia Pola Pollentia Herculanea'
. Adeiladwyd yr
amffitheatr
,
Pula Arena
rhwng 27 CC - 68 OC Mae hyn yn sefyll o hyd yngl?n a rhai o'r deg porth
Arch y Sergii
, neu Borth Hercules. Erbyn 425 OC, roedd esgobaeth Gristnogol yn llywodraethu.
Dinistriwyd y ddinas gan yr
Ostrogothiaid
, dan
Odoacer
, cadfridog
foederati
yn 476 AD ond daeth dan ddylanwad
Ravenna
(540-751) wedyn i ddod eto yn borthladd llewyrchus Bysantaidd. Mae'r Basilica Santes Fair Formosa yn dyddio o'r
6ed ganrif
. Yn y 7g daeth bobl Slafaidd. Mae
Cadeirlan Pula
yn dyddio o'r 6g. Yn 788, roedd Pula yn perthyn i
Charlemagne
. Erbyn 1148 roedd hi yn nwylo Fenis. Mae'r castell fenetaidd yn sefyll ar y
Capitolium
Rhufeinaidd. Dinistriwyd Pula deirgwaith gan Fenis wedi gwrthryfeloedd yn 1243, 1267 ac 1397. Arhosodd yn nwylo Fenis tan 1797. Mae'r bardd
Dante Alighieri
yn canu amdani yn ei
Divinia Comedia
:
"come a Pola, presso del Carnaro ch'Italia chiude e i suoi termini bagna"
neu "mae Pula ar lan y Carnaro yn dynodi ffiniau'r Eidal". Ond erbyn 1750au, roedd dim ond 3,000 o drigolion. Rhoddwyd hi i'r frenhiniaeth Eidaleg gan Napoleon ac wedyn i Ffrainc fel Rhanbarthau Illyria.
Wedi cwymp Napoleon ym 1813, rhoddwyd Pula ac Istria i
Awstria
ac o 1859 daeth Pula i fod yn brif borthladd Awstria, adferwyd cyfoeth y ddinas a daeth ynys
Brijuni
yn balas haf i'r Hapsbwrgiaid. Dangosodd y ddinas yng nghyfrifiad 1910 bod 58,562 o bobl (45.8% yn Eidalwyr; 15.2% Slafaidd). O Hydref 30, 1904 i Fawrth 1905, roedd
James Joyce
yn dysgu Saesneg yr Ysgol Berlitz.
Wedi 1918, heb yr Awstriaid, daeth dirywiad mawr, ac o dan
Benito Mussolini
, gadawodd y Slafiaid. Ond ym Medi 1943 meddiannwyd y ddinas gan y
Wehrmacht
o 1943?1945, a dioddefodd bomio sylweddol gan yr "Allies".
Rhwng 1945 -47 roedd Pula yn nwylo'r
Cenhedloedd Unedig
cyn ymuno a Croatia o fewn Yugoslavia ar Fedi 15, 1947. Gadawodd bron y cynaf o'i phoblogaeth (sef yr Eidalwyr).