Campws prifysgol Seisnig wedi'i lleoli ger y pentref
Falmer
yn
Nwyrain Sussex
, 4 milltir (6.4 km) o
Brighton
ydy
Prifysgol Sussex
. Dyma oedd un o'r prifysgolion newydd a sefydlwyd yn ystod y
1960au
. Derbyniodd ei
Siarter Brenhinol
ym mis Awst 1961. Yn fuan iawn, daeth Sussex yn gysylltiedig a newidiadau cymdeithasol ar ol y
rhyfel
a dulliau addysgu ac ymchwil arloesol.
Mae'r brifysgol o fewn yr 20 uchaf yn y
Deyrnas Unedig
: rhoddodd
The Guardian
y brifysgol ar safle rhif 18 ar gyfer 2010
[1]
; rhoddodd y "Good University Guide" 2008 y brifysgol ar safle 24.
[2]
Yn ol rhestr o brifysgolion gorau'r
Guardian
ar gyfer 2010, mae gan Brifysgol Sussex yr adran Gemeg orau yn y Deyrnas Unedig. Yn 2007, etholwyd yr athro, Geoff Cloke yn gymrawd i'r
Gymdeithas Frenhinol
. Yn 2008, rhoddwyd Prifysgol Sussex ar safle 20 yn y DU, yn y 50 uchaf yn Ewrop a'r 130fed yn y byd.
[3]
Prifysgol Sussex yw'r unig brifysgol Seisnig wedi'i lleoli yn ei chyfanrwydd mewn ardal o brydferthwch naturiol eithriadol, y
Twyni Deheuol
.
- ↑
"University guide".
Guardian Unlimited
.
[1]
Adalwyd 2007-08-12.
- ↑
"Good University Guide",
The Guardian
, Adalwyd 26-08-2007
- ↑
The Top 200 World Universities
.
Times Higher Education
. Adalwyd 27-08-2009