Prifysgol ymchwil gyhoeddus
yn
yr Almaen
yw
Prifysgol Ludwig Maximilian Munchen
(
Almaeneg
:
Ludwig-Maximilians Universitat Munchen
,
LMU
) a leolir ym
Munchen
yn nhalaith
Bafaria
.
Sefydlwyd Prifysgol
Ingolstadt
gan Ludwig IX, Dug Bafaria, ym 1472, ar batrwm
Prifysgol Fienna
. Yn ystod
y Diwygiad Protestannaidd
, trodd
Johann Eck
y brifysgol yn ganolfan i'r gwrthwynebiad
Catholig Rhufeinig
yn erbyn
Martin Luther
. Bu'n ganolfan
ddiwinyddol
yn bennaf, dan ddylanwad
dyneiddiaeth y Dadeni
a'r
Gwrth-Ddiwygiad
, nes iddi ddod dan ddylanwad
yr Oleuedigaeth
yn ail hanner y 18g. Sefydlwyd ysgolion
economeg
a
gwyddor gwleidyddiaeth
yno ym 1799.
[1]
Ym 1800, ar orchymyn Maximilian IV Joseph, Tywysog-Etholydd Bafaria, symudodd y brifysgol i
Landshut
ym 1800 ac fe'i ailenwyd yn Brifysgol Ludwig Maximilian, gan gyfuno enw ei hun gydag enw'r Dug Ludwig IX. Ym 1826, symudodd Ludwig I, Brenin Bafaria, y brifysgol i Munchen. Sefydlwyd ysgol dechnegol, ar gyfer
amaethyddiaeth
a
choedwigaeth
, ym 1868.
[1]