한국   대만   중국   일본 
Prifysgol Lausanne - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Prifysgol Lausanne

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Lausanne
Arwyddair Le savoir vivant  Edit this on Wikidata
Math prifysgol gyhoeddus , comprehensive university  Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1537  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Lausanne   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Y Swistir  Y Swistir
Uwch y mor 383 metr  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 46.5225°N 6.5794°E  Edit this on Wikidata
Map

Prifysgol a leolir yn ninas Lausanne , Vaud , yng ngorllewin y Swistir yw Prifysgol Lausanne ( Ffrangeg : Universite de Lausanne ; UNIL).

Sefydlwyd Ysgol Lausanne ( Lladin : Schola Lausannensis ) yn 1537, yn ystod y Diwygiad Protestannaidd , wedi i luoedd canton Bern gyfeddiannu Vaud a'i hymgorffori yn rhan o Hen Gydffederasiwn y Swistir. Dyma oedd yr unig ysgol ddiwinyddol i hyfforddi gweinidogion Protestannaidd Ffrangeg eu hiaith, er Lladin oedd iaith y gwersi. Erbyn 1547 roedd y celfyddydau, ieitheg Roeg , ac ieitheg Hebraeg yn rhan o'r cwricwlwm. Calfiniaid oedd diwinyddion Lausanne, a buont yn gwrthdaro a'r Zwingliaid a oedd yn llywodraethu Bern. Agorwyd adeilad yr Academi yn 1587. [1] Yn 1621 rhoddwyd i'r Academi gan lywodraeth Bern yr awdurdod i benodi gweinidogion i'r Eglwys Ddiwygiedig yn ogystal a'u hyfforddi, a bu'r ysgol yn meddu ar y fraint honno nes 1838. [2] Erbyn 1741 roedd saith o gadeiriau academaidd gan yr ysgol: diwinyddiaeth ddogmataidd , dadleuaeth ddiwinyddol, Hebraeg a'r holwyddoreg , Groeg a moesoldeb, athroniaeth (gan gynnwys mathemateg a ffiseg), areithyddiaeth a llenyddiaeth, a'r gyfraith (sifil a naturiol), ac yn 1766 penodwyd yr athro meddygaeth cyntaf. [3]

Yn 1837, newidiodd swyddogaeth yr Academi yn sylweddol: nid oedd bellach yn ysgol ddiwinyddol ond yn sefydliad addysg seciwlar er hyfforddi a gwobrwyo cymwysterau i ddynion yn y proffesiynau, ac i gynnal diwylliant llenyddol a gwyddonol. Bellach, Ffrangeg oedd iaith yr addysg, a rhennid yr Academi yn dair cyfadran: y celfyddydau a'r gwyddorau, y gyfraith, a diwinyddiaeth, a chanddynt 17 o gadeiriau academaidd i gyd. Cafodd yr Academi ei gwneud yn brifysgol yn 1890. [4] Crewyd nifer rhagor o gyfadrannau yn ail hanner y 19g ac yn yr 20g. Yn 1970, symudodd y brifysgol o'i safle yn hen ddinas Lausanne, ger yr eglwys gadeiriol a'r Chateau, i'r campws newydd yn Dorigny. [5]

Palais de Rumine, un o hen adeiladau'r brifysgol yn Lausanne

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. (Ffrangeg) " L'UNIL au 16e siecle ", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  2. (Ffrangeg) " L'UNIL au 17e siecle ", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  3. (Ffrangeg) " L'UNIL au 18e siecle ", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  4. (Ffrangeg) " L'UNIL au 19e siecle ", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  5. (Ffrangeg) " Hier... et aujourd'hui ", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.

Dolen allanol [ golygu | golygu cod ]