Prifysgol gyhoeddus
a leolir yn
Tubingen
,
Baden-Wurttemberg
, yn ne-orllewin
yr Almaen
yw
Prifysgol Tubingen
, yn llawn
Prifysgol Eberhard Karl Tubingen
(
Almaeneg
:
Eberhard Karls Universitat Tubingen
,
Lladin
:
Universitas Eberhardina Carolina
).
Sefydlwyd y brifysgol gan yr Iarll Eberhard VI ym 1477, wedi iddo gael blas ar
y Dadeni Dysg
pan aeth ar grwydr drwy'r
Eidal
. Daeth yn ganolfan i ddiwygwyr eglwysig a dinesig a syniadau newydd, yn enwedig ym maes
diwinyddiaeth
. Sefydlwyd y coleg diwinyddol
Protestannaidd
yno gan y Dug Ulrich ym 1534. Bu nifer o enwogion o amryw feysydd yn astudio yn Tubingen, gan gynnwys y diwygiwr
Philipp Melanchthon
, seryddwr
Johannes Kepler
, y bardd
Friedrich Holderlin
, yr athronwyr
G. W. F. Hegel
a
Friedrich Wilhelm Joseph Schelling
, y diwinydd a dyngarwr
Albert Schweitzer
, y diwinydd
Hans Kung
, a'r
Pab Bened XVI
.
Cyrhaeddodd y brifysgol anterth ei henwogrwydd yng nghanol y 19g, fel cartref i Ysgol Tubingen, ysgol feddwl o ddiwinyddion Protestannaidd, yn eu plith
Ferdinand Christian Baur
. Tubingen oedd y brifysgol gyntaf yn yr Almaen i sefydlu cyfadran
gwyddorau natur
, ac hynny ym 1863.
[1]
Cafodd
athroniaethau Marcsaidd
a
Marcsiaeth?Leniniaeth
le blaenllaw yn y brifysgol yn nechrau'r 20g. Bu'n rhaid i academyddion gydymffurfio a pholisiau'r llywodraeth
Natsiaidd
o 1933 hyd at 1945. Ailstrwythurwyd Prifysgol Tubingen ym 1970 yn ol yr arfer Ffrengig, gan rannu'r brifysgol yn sawl adran annibynnol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil.