Arweinwyr llywodraeth ddatganoledig neu weithrediaeth
Gogledd Iwerddon
yw
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
(
Gwyddeleg
:
Cead-Aire
,
Saesneg
:
First Minister
,
Sgoteg Ulster
:
Heid Mannyster
) a
Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon
. Mae'r llywodraeth ei hun yn cael ei ffurfio gan y brif bleidiau yng
Nghynulliad Gogledd Iwerddon
ac mae'n rhaid i'r brif weinidog a'i ddirprwy fod yn aelodau o'r Cynulliad hwnnw.
Ers mis Ionawr
2020
,
Arlene Foster
a
Michelle O'Neill
yw'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn ol eu trefn.
Yn wahanol i'r sefyllfa mewn gwledydd eraill, mae'r un grymoedd yn union gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Prif Weinidog. Ers
Cytundeb Gwener y Groglith
, rhaid i un fod yn
unoliaethydd
a'r llall yn
genedlaetholwr
.
Sefydlwyd y swydd yn 2001 pan ddaeth
David Trimble
yn brif weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon. Bu'r swydd heb ddeiliad o 2002 hyd fis Mai 2007 oherwydd anghydfod gwleidyddol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Ar yr 8fed o Fai 2007 apwyntiwyd y Parch.
Ian Paisley
yn Brif Weinidog. O 5 Mehefin 2008 tan
2016
,
Peter Robinson
oedd y Prif Weinidog gyda
Martin McGuinness
yn Ddirprwy Brif Weinidog mewn cynllun rhannu grym rhwng yr Unoliaethwyr a'r Gweriniaethwyr. Cymerodd Arlene Foster yr awenau yn 2016, ond roedd y swydd yn wag eto rhwng
2017
a
2020
.