Prifddinas
De Affrica
yw
Pretoria
. Rhennir swyddogaethau pridffdinas i raddau yn Ne Affrica, gyda rhywfaint o swyddogaethau deddfwriaethol yn
Nhref y Penrhyn
a swyddogaethau cyfreithiol yn
Bloemfontein
, ond Pretoria yw'r brifddinas
de facto
.
Saif yng ngogledd-ddwyrain y wlad, yn nhalaith
Gauteng
. Mae'n rhan o adral ddinesig Tshwane, ac mae symudiad ar y gweill i newid enw y ddinas ei hun i "Tshwane". Sefydlwyd y ddinas yn
1855
gan
Marthinus Pretorius
, a'i henwodd ar ol ei dad,
Andries Pretorius
.
Mae poblogaeth y ddinas ei hun tua un miliwn, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,985,997. Y prif ieithoedd a siaredir yno yw
Tswana
,
Afrikaans
,
Ndebele
a
Saesneg
.