Athroniaeth
sy'n canolbwyntio ar
wybodaeth
a posteriori
a phrofiad ac yn gwrthod tybiaethau
a priori
a
metaffiseg
yw
positifiaeth
.
[1]
[2]
Arloesoedd
Auguste Comte
yr ysgol feddwl hon a'r nod o drin y
gwyddorau cymdeithas
gyda'r un fethodoleg a'r
gwyddorau naturiol
. Gan efelychu'r
dull gwyddonol
defnyddir
dulliau mesurol
, megis casglu data a'u dadansoddi, i brofi hypothesis. Yn ol y beirniaid, golwg gul ac arwynebol ar ein byd a gynigir gan bositifiaeth. Honnir bod angen
ymchwil ansoddol
er mwyn deall achosion ymddygiad cymdeithasol. Yn gyffredinol, cytunir taw man cychwyn defnyddiol yw positifiaeth i gydnabod gogwyddion a phatrymau bras ac awgrymu'r cwestiynau ansoddol sy'n rhaid eu gofyn er mwyn dehongli'r pwnc yn drwyadl.