Prif dref Swydd Laois yng nghanolbarth Gweriniaeth Iwerddon yw Port Laoise [1] (hen ffurf Portlaoighise ; hen enw Saesneg : Maryborough ). Yn 2006 , roedd y boblogaeth yn 14,275.
Tyfodd y dref bresennol o amgylch caer "Fort of Leix" neu "Fort Protector", a adeiladwyd yn 1548 i geisio diogelu rheolaeth Seisnig ar yr ardal. Sefydlwyd y dref ei hun gan fesur seneddol yn 1557 , yn ystod teyrnasiad Mari I, brenhines Lloegr , a chafodd yr enw Maryborough. Fe'i gwnaed yn fwrdeistref yn 1570 .