한국   대만   중국   일본 
Porthaethwy - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Porthaethwy

Oddi ar Wicipedia
Porthaethwy
Math cymuned , tref   Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Mon  Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru  Cymru
Yn ffinio gyda Cwm Cadnant   Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.232443°N 4.172879°W  Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000030  Edit this on Wikidata
Cod OS SH5506472804  Edit this on Wikidata
Cod post LL59  Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth ( Plaid Cymru )
AS/au Virginia Crosbie ( Ceidwadwyr )
Map

Tref a chymuned ar Ynys Mon yng ngogledd-orllewin Cymru yw Porthaethwy. Mae'n edrych dros Afon Menai ac yn gorwedd ger Pont Menai, a adeiladwyd yn 1826 gan Thomas Telford , ychydig dros y d?r o Fangor. Saif ar lan Afon Menai ac mae'r bont Menai yn ei gysylltu i lan Cymru. Mae ganddi boblogaeth o 3,376 sef y pumed dref fwyaf ar ynys Mon [1] .

Hen fwthyn - y t? lleiaf yn y Borth

Hanes [ golygu | golygu cod ]

Daw’r enw o Porth + Daethwy, yr olaf yn enw llwyth Celtaidd lleol (gweler hefyd Dindaethwy , enw'r cwmwd lleol yn yr Oesoedd Canol). Sefydlwyd trigfan yma ers canrifoeddd oherwydd hwn yw pwynt culaf Afon Menai , felly yn le croesi cyfleus. Yn y 9g dyma lle daeth Tysilio i fyw fel meudwy ar yr ynys fechan sydd bellach yn dwyn ei enw a sefydlu’r eglwys.

Ffordd Biwmares, Porthaethwy.

Bu fferi yn croesi’r Fenai yma ers canrifoedd: y cofnod cyntaf ohono yn 1292 . Parhaodd felly fel un o’r croesfannau pennaf.

Pan agorwyd Pont Y Borth ym 1826 , ‘daeth oes y fferi i ben, ond parhaodd cysylltiadau’r Borth a’r mor, gyda masnachwyr yn mewnforio ac allforio, a diwydiant adeiladu llongau lleol. Y llongfasnachwyr pennaf yn y 19g oedd teulu Davies o Dreborth .

Cafodd Ynys Mon ei wahanu o Gymru ar ol llanw uchel tua 8,000 i 9,000 o flynyddoedd yn ol.  

Mae'r afon sydd yn rhedeg drwy Borthaethwy yn rhedeg am 16 milltir o Biwmares i Abermenai .

Pan gafodd Pont y Borth, ei hadeiladu, yn 1826 gan Thomos Telford, y bont oedd yr un mwyaf yn ei chyfnod.

Ffair y Borth [ golygu | golygu cod ]

24 Hydref yw diwrnod Ffair y Borth.

Mae’r ffair yn dyddio’n ol i 1691 . Roedd yn ffair geffylau i ddechrau, ac roedd mart prynu a gwerthu anifeiliaid yn rhan annatod o’r ffair hyd at yr 1970au. Bu yn ffair gyflogi hefyd. Roedd yn un o achlysuron mawr y flwyddyn i lawer o werin bobl Mon ac Arfon . Dyma hen bennill amdani:

'Mae Ffair y Borth yn nesu,
Caf deisen wedi ei chrasu,
A chwrw poeth o flaen y tan,
A geneth lan i'w charu.'

( Hen Benillion , gol. T. H. Parry-Williams , rhif 218)

Heddiw, mae’r ffair yn parhau i’w chynnal yn flynyddol, fel ffair bleser yn bennaf, sydd yn ol traddodiad yn cael ei gynnal ar dir cyffredin sy'n gwasanaethu fel maes parcio gweddill y flwyddyn. Ar Hydref 24, diwrnod y ffair, bydd ffyrdd ar gau er mwyn cynnal nifer o stondinau.

Y Borth Heddiw [ golygu | golygu cod ]

Mae’r dref yn gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Cymru, Bangor sydd yn defnyddio’r pier i gartrefu’r llong ymchwil, Prince Madog , ac i ysgol uwchradd fwyaf Ynys Mon , Ysgol David Hughes .

Lleolir rhaglen deledu S4C , Rownd a Rownd yma, a’r dref yn cynnwys siopau ffug sy’n setiau deledu pwrpasol ar gyfer y gyfres. Mae’n gartref i fand pres Porthaethwy.

Aiff Llwybr Arfordirol Ynys Mon drwy'r dref.

Cyfrifiad 2011 [ golygu | golygu cod ]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn: [2] [3] [4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Porthaethwy (pob oed) (3,376)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Porthaethwy) (1,790)
  
54.9%
: Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Porthaethwy) (2114)
  
62.6%
: Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Porthaethwy) (556)
  
36.6%
: Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl nodedig [ golygu | golygu cod ]

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Llyfryddiaeth [ golygu | golygu cod ]

  • Davies, J. M., "Porthaethwy", yn Nabod Mon , gol. Jones a Thomas (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Office for National Statistics: Neighbourhood Statistics: Census 2011: Isle of Anglesey " . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-13 . Cyrchwyd 2017-06-11 .
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru" . Swyddfa Ystadegau Gwladol . Cyrchwyd 2012-12-12 . . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru ; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol ; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol [ golygu | golygu cod ]