Porfirio Diaz

Oddi ar Wicipedia
Porfirio Diaz
Ganwyd Jose de la Cruz Porfirio Diaz Mori  Edit this on Wikidata
15 Medi 1830  Edit this on Wikidata
Oaxaca   Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Gorffennaf 1915  Edit this on Wikidata
Paris   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Mecsico   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Instituto de Ciencias y Artes de Oaxaca  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd , person milwrol  Edit this on Wikidata
Swydd Arlywydd Mecsico , gweinidog, Aelod o Siambr Dirprwyon Mecsico  Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Liberal Party  Edit this on Wikidata
Mudiad Porfiriato  Edit this on Wikidata
Priod Delfina Ortega Diaz, Carmen Romero Rubio  Edit this on Wikidata
Plant Amada Diaz Quinones, Porfirio Diaz Ortega, Luz Aurora Victoria Diaz Ortega  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Uwch-Groes Urdd Isabel la Catolica, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd Leopold, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Order of the Lion and the Sun, Grand Cross of the Order of the Tower and Sword, Royal Order of the Sword, Urdd dros ryddid, Urdd Siarl III, Urdd yr Eryr Coch, radd 1af, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Order of the Lion and the Sun First class, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky  Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd a milwr Mecsicanaidd oedd Porfirio Diaz ( 15 Medi 1830 ? 2 Gorffennaf 1915 ) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1877 i 1880 ac o 1884 i 1911.

Ganwyd yn Oaxaca de Juarez yn nhalaith Oaxaca yn ne Mecsico . Roedd yn mestizo ac yn hanu o dras frodorol. Dechreuodd hyfforddi i fod yn offeiriad yn 15 oed. Ymunodd a'r fyddin a gwasanaethodd yn Rhyfel Mecsico a'r Unol Daleithiau (1846?48), yn Rhyfel La Reforma (1857?60), ac yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn 1861?67. [1]

Yn 1876 arweiniodd Diaz wrthryfel yn erbyn yr Arlywydd Sebastian Lerdo de Tejada a chafodd ei ethol yn arlywydd y wlad ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880?84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog Manuel Gonzalez yn arlywydd, Diaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir el porfiriato . Wedi iddo ennill etholiad arlywyddol 1910 drwy dwyll, dechreuodd Chwyldro Mecsico yn ei erbyn. Ymddiswyddodd Diaz o'r arlywyddiaeth ar 25 Mai 1911 ac aeth i Ewrop yn alltud. Bu farw ym Mharis yn 84 oed. [1]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg)   Porfirio Diaz . Encyclopædia Britannica . Adalwyd ar 22 Medi 2019.