Epoc
daearegol
ydy
Pleistosen
(Saesneg:
Pleistocene
) (symbol P
S
[1]
) a barodd o tua 2,588,000 hyd at 11,700 o flynyddoedd yn ol ac sy'n rhychwantu'r holl gyfnodau diweddar o ailadrodd
rhewlifiannau
.
Syr
Charles Lyell
a fathodd y term ym 1839 i ddisgrifio strata o greigiau yn
Sisili
; sylweddolodd fod yn y creigiau hyn
ffawna
molysgaidd
a bod 70% ohonyn yn dal i fodoli. Roedd y ffaith hwn yn ei wneud yn gwbwl wahanol i'r epoc
Pliosenaidd
ac yn ei wneud yn gyfnod gwahanol ac iau. Bathodd y term
Pleistocene
(mewn ystyr lythrennol ‘mwayf newydd, diweddaraf’) o'r
Hen Roeg
pleistos
(πλε?στο?) ‘mwyaf’ a
kainos
(καιν??) ‘newydd, diweddar’; roedd hyn, felly, yn cyferbynnu gyda'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef y cyfnod Pliosenaidd (mewn ystyr lythrennol ‘mwy newydd, diweddarach’, o'r geiriau
plei?n
(πλε?ων) ‘mwy’ a
kainos
), a'r cyfnod a'i dilynodd sef
Holosen
(‘yn gyfangwbwl newydd’, a darddodd o'r Hen Roeg
holos
(?λο?) ‘yn gyfangwbwl’ a
kainos
) sy'n ymestyn hyd at y presennol.