Adeilad rhestredig Gradd II* ger
Llangollen
yn
Sir Ddinbych
yw
Plas T?'n D?r
neu
Neuadd Ty'n D?r
.
[1]
Ar droad a dechrau'r
20g
, dyma gartref y biliwynydd Americanaidd,
Hywel Hughes (Bogota)
. Yn ystod y cyfnod hwn, yn 1929, y cynhaliwyd
Gwersyll
cyntaf yr Urdd, ar dir y plas. Gadawodd Hughes
Gymru
ac ymsefydlu yn
Bogota
, prifddinas
Colombia
. Gwnaeth ei arian drwy allforio
coffi
, olew a nwyddau eraill, a magu gwartheg ar ddwy ransh enfawr.
Adeiladwyd yr adeilad presennol rhwng 1866-70 ar gyfer John Dicken ar safle hen d? cynharach. Ariannwyd y plasty newydd, o bosibl trwy werthu rhannau o'r ystad gan berthynas iddo, sef Mr G. Ll. Dicken. Gwerthwyd rhannau pellach o'r ystad mewn arwerthiant ar ddechrau'r
20g
.
[1]
Cafodd llawer gan gynnwys Plas Ty'n D?r ei hun eu tynnu'n ol ddwywaith ym Mehefin 1902 ac eilwaith yng Ngorffennaf 1903.
[2]
[3]
[4]
Yn 2007 prynwyd Plas Ty'n D?r gan Brifysgol Central Lancaster.
[5]
Defnyddiwyd y safle i ddarparu cyrsiau sy'n ymwneud a chwaraeon, twristiaeth a'r awyr agored, tan fis Mehefin 2014.
[6]
Derbyniodd statws Gradd II* oherwydd y gwaith mewnol, cain.
Mae gan y plasty arddull du a gwyn Tuduraidd; cynllun hollol anghymesur ac afreolaidd. Mae iddo ddau lawr ac atig; ceir brics coch gyda dresin a thalynau cerrig rhydd. Mae'r llawr cyntaf y prif ddrychiadau o bren, gan fwyaf, gydag addurniadau panelog, to llechi a phatrwm serol i'r simnai brics coch.
Derbyniodd statws Gradd II* oherwydd y gwaith mewnol, cain.
Mae'r enw'n ymddangos ar fapiau ac mewn papurau newydd hyd at ddechrau'r
20g
ac yng nghynllun llawr 1903 fel
Ty'n Dwfr
.
[7]
Fel adeilad rhestredig, rhaid gwarchod holl nodweddion pensaerniol Plas Ty'n D?r, yn ol y gyfraith, ond nid oes unrhyw fodd y gellir gwarchod yr enw, ac fe'i troswyd i'r Saesneg gyda'r sillafiad 'Ty'n Dwr Hall'. Mae'r enw Cymraeg wedi newid hefyd.