Pianydd
yw'r enw a roddir ar berson sy'n canu'r
piano
. Caiff ei ganu ym mhob
genre
o
gerddoriaeth
Ewropeaidd
, gan gynnwys
jazz
,
cerddoriaeth glasurol
a'r
felan
. Mae'r gallu i ganu piano'n golygu y gall y pianydd hefyd chwarae'r
allweddellau
. Ystyrir
Franz Liszt
fel y pianydd gorau erioed gan lawer; disgrifiwyd ef gan Anton Rubinstein: "O'i gymharu a Liszt, plant yw'r holl bianyddion eraill."
[1]
Yn aml, mae'r pianydd yn cyfeilio i unawdydd; pryd hyn, gelwir y person sy'n canu'r piano yn 'gyfeilydd'.
Efallai mai'r Cymro enwocaf yw'r pianydd ifanc a byd enwog o Wrecsam Ll?r Williams. Ystyrir
Vladimir Ashkenazy
hefyd fel un o'r goreuon erioed, yn y byd clasurol. Yn y byd jazz, ceir Art Tatum, Duke Ellington, Thelonious Monk, Oscar Peterson a Bud Powell. Yn y byd pop, ceir:
Richard Clayderman
, Liberace a Victor Borge.
- ↑
Cyfieithiad o:
"In comparison with Liszt, all other pianists are children".