Philip yr Arab
|
---|
|
Ganwyd
| c. 204
Shahba
|
---|
Bu farw
| 249
Verona
|
---|
Dinasyddiaeth
| Rhufain hynafol
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
|
---|
Swydd
| ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Praetorian prefect
|
---|
Tad
| Julius Marinus
|
---|
Priod
| Marcia Otacilia Severa
|
---|
Plant
| Philippus II
|
---|
Marcus Iulius Philippus
(c.
204
?
249
), sy'n fwy adnabyddus fel
Philip yr Arab
neu
Philip I
, oedd
ymerawdwr Rhufain
o
244
hyd 249.
Dywed rhai ffynonellau fod Philip yn fab i
sheic
Bedouin
. Yn ol eraill ganed ef yn
Shahba
yn fab i Julio Marino, dinesydd Rhufeinig o darddiad bonheddig lleol. Priododd Rhilip a Marcia Octacilia Severa yn
238
a bu ganddynt un mab, Marcus Julius Severus Philipus, a ddaeth yn Philip II.
Ymunodd Philip a'r fyddin a dringodd trwy'r rhengoedd nes dod yn gadfridog dan yr ymerawdwr
Gordian III
. Ef oedd pennaeth y llengoedd yn nhalaith
Mesopotamia
. Daeth Gordian i'r dwyrain i ymgyrchu yn erbyn y
Persiaid
oedd yn bygwth Mesopotamia. Pan fu farw Timisetus, pennaeth
Gard y Praetoriwm
, tad-yng-nghyfraith Gordian a'i brif gynghorydd, penodwyd Philip yn bennaeth y Praetoriaid yn ei le. Ymddengys i Philip gynllwynio yn erbyn Gordian a'i lofruddio yn
243
. Cyhoeddwyd Philip yn ymerawdwr gan y
llengoedd
, ac wedi cytuno telerau heddwch a
Sapor I
, brenin Persia, aeth i
Rufain
lle gwnaed ef yn ymerawdwr gan y
Senedd
. Cyhoeddodd ei fab Marcus Julius Severus Philipus fel
Cesar
.
Tua dechrau ei deyrnasiad bu ymosodiadau gan yr
Almaenwyr
ar ffiniau'r ymerodraeth. Ymosododd y
Gothiaid
ar
Moesia
(
Bwlgaria
heddiw) tros
Afon Donaw
. Erbyn
248
yr oeddynt wedi ei gyrru allan o Moesia, ond yr oedd y llengoedd yn anfodlon, efallai am nad oeddynt wedi derbyn tal digonol am eu buddugoliaeth. Gwrthryfelasant, a chyhoeddi Tiberius Claudius Pacatianus yn ymeradwdwr. Gorchfygwyd y gwrthryfel, a phenododd Philip
Decius
yn rhaglaw ar y dalaith.
Yn Ebrill
248
dathlodd Philip fil-flwyddiant sefydlu dinas Rhufain gan
Romulus
gyda chwaraeon. Fodd bynnag yr oedd y milwyr ar ffin Afon Donaw yn fwyfwy anfodlon, ac yn nechrau
249
cyhoeddasant Decius yn ymerawdwr. Cychwynodd ef tua Rhufain gyda'i fyddin, ac mewn brwydr gerllaw
Verona
gorfchfygwyd byddin Philip ac fe'i lladdwyd. Pan gyrhaeddodd y newyddion i Rufain, llofruddiwyd ei fab.
Awgryma rhai haneswyr mai Philip oedd yr ymerawdwr cyntaf i fod yn Gristion. Ond nid oes unrhyw brawf o hyn, er iddo eu goddef.