Canolfan weinyddol a dinas fwyaf
Crai Kamchatka
,
Rwsia
yw
Petropavlovsk-Kamchatsky
(
Rwseg
: Петропа?вловск-Камча?тский). Mae'n borthladd mawr. Poblogaeth: 179,780 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir y ddinas ar Fae Avacha yn rhan deheuol
Gorynys Kamchatka
, ar lan y
Cefnfor Tawel
. Ar draws y bae ceir Gwersyll Llongau Tanfor Niwcliar Rybachiy, a sefydlwyd yng nghyfnod yr
Undeb Sofietaidd
ac sy'n cael ei defnyddio o hyd gan Forlu Rwsia. Gorwedd y ddinas 6,766 cilometer (4,204 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas
Moscow
a thua 2,220 cilometer (1,380 milltir) o
Vladivostok
. Ceir sawl
llosgfynydd
yn y mynyddoedd i'r gogledd o'r ddinas.
Sefydlwyd Petropavlovsk-Kamchatsky gan y fforwr o
Ddenmarc
,
Vitus Bering
, ar ddiwedd 1740, yng ngwasanaeth Morlu Ymherodrol Rwsia. Enwyd y ddinas yn
Petropavlovsk
('
Pedr
a
Paul
') ganddo, ar ol ei ddwy long,
St Peter
a
St Paul
.
Mae
pysgota
yn un o'r prif ddiwydiannau lleol.