Y grefft a'r wyddor o gynllunio
adeiladau
yw
pensaerniaeth
. Diffiniad ehangach fyddai cynnwys holl amgylchedd adeiladu. Mae hynny yn cynnwys
tirlunio
, sef cynllunio tirlun,
cynllunio gwlad a thref
, sef cynllunio strwythur sylfaenol ardaloedd a
pheirianneg sifil
, sef cynllunio adeiladwaith megis
ffyrdd
,
pontydd
,
twneli
a
chamlesi
.
Mae pensaerniaeth yn cynnwys cynllunio adeiladau cyhoeddus ac adeiladau preifat yn ogystal a chyfuniadau o adeiladau, er enghraifft stadau tai. Mae pensaerniaeth yn wyddionaeth bwysig ar gyfer
cadwraeth adeiladau
hefyd.
Yn
2001
sefydlwyd Ysgogoloriaeth Pensaerniaeth yr
Eisteddfod Gelf a Chreft
. Amcan yr ysgoloriaeth yw hyrwyddo pensaerniaeth greadigol a dylunio yng Nghymru.
Mae penseiri enwog Cymru yn cynnwys
John Nash
(1758-1835), pensaer yr eglwys gadeiriol
Tyddewi
a Syr
Clough Williams-Ellis
(1883-1978), pensaer y pentref Eidalaidd
Portmeirion
.
Ymhlith yr ysgolion mwyaf dylanwadol y mae:
Bauhaus
(
Weimar
,
Dessau
a
Berlin
yn
yr Almaen
), yr
Architectural Association School of London
(
Lloegr
) a'r
Ecole des Beaux-Arts
(
Paris
,
Ffrainc
; hyd at
1968
, ers hynny
Ecole d'Architecture
).