한국   대만   중국   일본 
Pascal (uned) - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Pascal (uned)

Oddi ar Wicipedia
Pascal
Enghraifft o'r canlynol System Ryngwladol o Unedau, uned o bwysau, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned SI gydlynol, uned sy'n deillio o UCUM  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mesurydd gwasgedd wedi ei galibreiddio i ddarllen psi (mewn coch) a kPa (du)

Mae pascal (symbol: Pa) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur gwasgedd (Saesneg: pressure ). Hynny yw: N/cm × 10 2 . Ceir gwasgedd o UN pascal gan rym o un newton yn gweithredu ar ongl sgwar i arwynebedd o un metr sgwar.

Gan mai uned i fesur gwasgedd ydy pascal, mae'n rhaid felly deall beth ydy gwasgedd. Gellir dweud mai gwasgedd ydy grym (mewn newtonau ) wedi ei rannu gyda'r arwynebedd (mewn cm × 10 2 ) neu m × 10 2 ). Hynny yw: P = F/A.

Fe ddown ar draws y mesur hwn o ddydd i ddydd mewn adroddiadau tywydd, ac mae llawer o farometrau 'n mesur gwasgedd mewn hectopascalau (1 hPa ≡ 100 Pa) neu kilopascalau (1 kPa ≡ 1000 Pa). [1] Fe'i defnyddir hefyd ar labeli teiar beics . Mae un hectopascal yn hafal i un milibar.

Cafodd yr uned ei henwi i gofio am waith y mathemategydd Ffrengig Blaise Pascal .

Diffiniad [ golygu | golygu cod ]

1 pascal (Pa) = 1 uned newton |N/ m 2 = 1  kg /( m · s 2 ) [2]

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "U.S. "Federal Meteorological Handbook " " . Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1999-04-20 . Cyrchwyd 2010-07-30 .
  2. Table 3 (Section 2.2.2) Archifwyd 2007-06-18 yn y Peiriant Wayback ., SI Brochure , "International Bureau of Weights and Measures"
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .