Stadiwm chwaraeon yng
Nghaerdydd
yw
Parc yr Arfau
(
Saesneg
:
Cardiff Arms Park
).
Ar un adeg roedd y safle yn gae corsiog oedd yn eiddo i
Ardalydd Bute
. Dywedodd yr Ardalydd mai dim ond ar gyfer chwaraeon yr oedd i'w ddefnyddio, ac erbyn y 1880au roedd maes
rygbi
a maes
criced
yno. Dros y blynyddoedd, bu'r safle yn gartref i lawer o chwaraeon eraill hefyd.
Yma yr oedd cartref
Clwb Criced Sirol Morgannwg
hyd 1966. Dechreuodd adeiladu stadiwm cenedlaethol newydd ar y safle yn 1967, ar gost o £9 miliwn. Roedd yn dal 56,000 o bobl. At y stadiwm yma y cyfeirir pan yn son am "Barc yr Arfau" fel rheol. Yma yr oedd
Tim rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru
yn chwarae ei gemau cartref, a
Chlwb Rygbi Caerdydd
yn parhau i ddefnyddio'r hen faes rygbi, Maes Rygbi Caerdydd.
Yn 1999, agorwyd
Stadiwm y Mileniwm
ar y safle, a dymchwelwyd yr hen stadiwm cenedlaethol. Daeth hwn yn gartref newydd y tim rygbi cenedlaethol. Ar hyn o bryd mae tim rygbi rhanbarthol
Gleision Caerdydd
yn parhau i ddefnyddio Maes Rygbi Caerdydd, ond cyhoeddwyd yn 2007 y byddent yn symud i stadiwm newydd yn 2009.