Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
|
Math
| un o barciau cenedlaetho Cymru a Lloegr,
Geoparc
|
---|
|
Poblogaeth
| 33,485
|
---|
Sefydlwyd
| - 1957
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Sir
| Blaenau Gwent
,
Sir Gaerfyrddin
,
Merthyr Tudful
,
Powys
,
Rhondda Cynon Taf
,
Sir Fynwy
,
Torfaen
,
Caerffili
|
---|
Gwlad
|
Cymru
|
---|
Arwynebedd
| 1,344 km²
|
---|
Cyfesurynnau
| 51.88°N 3.4°W
|
---|
Cod SYG
| W18000001
|
---|
Rheolir gan
| Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
|
---|
|
Statws treftadaeth
| Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol
|
---|
Manylion
|
---|
|
|
- Mae hon yn erthygl am y parc cenedlaethol. Am y mynyddoedd yr enwir y parc ar eu hol, gweler
Bannau Brycheiniog
.
Parc cenedlaethol
yn ne
Cymru
yw
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
, sy'n un o dri yng Nghymru. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi
Llandeilo
,
Llanymddyfri
,
Aberhonddu
,
Y Gelli
,
Pont-y-p?l
a
Merthyr Tudful
. Fe'i ffurfiwyd ym
1957
.
Yn Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Bannau Brycheiniog' yn unig o hyn ymlaen.
[1]
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel
Bannau Brycheiniog
. Yng ngorllewin y parc mae'r
Fforest Fawr
a'r
Mynydd Du
, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw,
Mynydd Du
, ar y ffin a Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae
arwynebedd
o 1344
km²
ganddo. Gwelir sawl
rhaeadr
yn y parc, gan gynnwys
Sg?d Henrhyd
sydd 27 medr o uchder. Yn ardal
Ystradfellte
, ceir sawl
ogof
nodedig, megis
Ogof Ffynnon Ddu
. Gwelir
merlod mynydd Cymreig
yn pori yn y parc.
Ar 17 Ebrill 2023, 66 mlynedd i'r dydd wedi sefydlu'r Parc, cyhoeddwyd mai yr enw Gymraeg, Bannau Brycheiniog, bydd enw swyddogol y Parc. Yn ol penaethiaid y parc mae'n gam fydd yn dathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Mae'n rhan o strategaeth newydd ar gyfer dyfodol y parc, sy'n ceisio mynd i'r afael a heriau amgylcheddol difrifol. "Roedd hi just yn teimlo fel amser da i ailafael yn yr hen enw am yr ardal. Mae'n efelychu ein ymrwymiad ni i'r iaith Gymraeg," eglurodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Catherine Mealing-Jones
[2]
. Dyma fydd yr ail barc cenedlaethol i hawlio enw Cymraeg yn unig, yn dilyn penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2022.
[3]
- Fan Llia (631 m)
- Moel Feity (591 m)
- Fan Nedd (563 m)
Panorama 180°: Parc y Deinosoriaid.
- ↑
"Bannau Brycheiniog: Defnyddio'r enw Cymraeg yn unig yn "rhoi statws i'r iaith
"
"
.
Golwg360
. 2023-04-17
. Cyrchwyd
2023-04-17
.
- ↑
"Parc Cenedlaethol y Bannau i ddefnyddio enw Cymraeg yn unig"
.
BBC
Cymru Fyw
. 17 Ebrill 2023.
- ↑
"Parc cenedlaethol i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig"
.
BBC Cymru
Fyw. 16 Tachwedd 2022.