Casgliad o 11.5 miliwn o ddogfennau cyfrinachol sy'n cynnwys gwbodaeth manwl am dros 214,000 o gwmniau
hafan treth
yw
papurau Panama
. Cofrestrwyd y cwmniau gan gwmni gwasanaethau Mossack Fonseca, o
Banama
, ac roedd y manylion yn cynnwys enwau cyfranddalwyr a chyfarwyddwyr y cwmniau.
Datguddiodd y papurau sut mae pobl gyfoethog yn 'cuddio' arian rhag y cyhoedd. Pan gyhoeddwyd y papurau ar y we, roedd pum pennaeth gwladwriaeth yn cael ei enwi, sef yr
Ariannin
,
Gwlad yr Ia
,
Sawdi Arabia
,
Wcrain
a'r
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
yn ogystal a swyddogion llywodraethau gwledydd eraill, perthnasau a chyfeillion agos i bennaethiaid dros 40 o wledydd eraill. Roedd dros hanner y cwmniau a enwyd ar y rhestr wedi'u cartrefu ar
Ynysoedd y Wyryf
(
British Virgin Islands
) ac roedd mwy o fanciau, swyddfeydd cyfreithwyr a'r 'dyn canol' yn gysylltiedig gyda
Hong Kong
nac unman arall.
[1]
Er nad yw'r defnydd o fusnesau alltraeth ddim yn anghyfreithiol cyhoeddodd rhai ymchwilwyr fod rhai o'r cregyn-gwmniau o bosib wedi cael eu defnyddio i bwrpas anghyfreithiol, gan gynnwys
twyll ariannol
,
gwyngalchu arian
,
cyffuriau
ac
osgoi treth
.
[2]
Rhyddhaodd
canwr cloch
dienw, y dogfennau i bapur newydd
Almaenig
(
Suddeutsche Zeitung
), dan lysenw "John Doe" bob yn swp gan ddechrau ar y gwaith o'u rhyddhau yn nechrau 2015.