Dinas yn
Riverside County
, yn ne talaith
Califfornia
,
Unol Daleithiau America
, yw
Palm Springs
. Fe'i lleolir yn
Nyffryn Coachella
yn
Anialwch Colorado
. Mae'r ddinas yn cwmpasu tua 94 milltir sgwar (240 km
2
), felly hi yw'r ddinas fwyaf yn Riverside County yn ol arwynebedd tir.
Yng Nghyfrifiad 2020 roedd gan y ddinas boblogaeth o 44,561,
[1]
ond oherwydd ei bod yn lleoliad ymddeol ac yn gyrchfan gaeafol, mae ei phoblogaeth yn treblu rhwng Tachwedd a Mawrth.