Pad Thai
Pryd o fwyd o
Wlad Thai
yw
pad thai
. Mae'n cynnwys nwdls reis tro-ffriedig, ac mae'n boblogaidd fel bwyd stryd ac yn y mwyafrif o fwytai yng Ngwlad Thai a ledled y byd.
[1]
Mae'r cynhwysion fel arfer yn cynnwys nwdls reis, berdys, cyw iar neu tofu, cnau daear, wyau wedi eu sgramblo, ac egin ffa. Bydd y rhain yn cael eu ffrio'n ysgafn mewn woc gyda saws pad thai.
Gwneir pad thai gyda nwdls reis sychedig wedi'u hail-hydradu sy'n cael eu tro-ffrio ag
wyau
a thofu cadarn wedi'i dorri, wedi'i flasu a mwydion tamarind, saws pysgod, berdys sychedig,
garlleg
neu sialots,
pupur chili
coch a siwgr palmwydd. Caiff ei weini gyda sleisiau o leim a
chnau daear
wedi'u rhostio a'u torri.
[2]
Gall gynnwys llysiau eraill megis egin ffa, cennin syfi, radisys picl neu
erfin
, a
blodau banana
amrwd. Gall hefyd gynnwys berdys,
cranc
,
mor-lewys
,
cyw iar
, cig moch, neu broteinau anifeiliaid eraill.
Mae nifer o'r cynhwysion yn cael eu darparu ar yr ochr fel
cynfennau
, megis y pupur chili coch, sleisiau leim, cnau daear wedi'u rhostio, egin ffa, sibols, ac amryw o lysiau ffres eraill.
[3]
Gall fersiynau llysieuol defnyddio saws soi yn lle'r saws pysgod, a hepgor y berdys yn llwyr.
Pad thai o stondin stryd yn Chiang Mai yng Ngogledd Gwlad Thai
Efallai cyflwynir nwdls reis wedi'u ffrio i Ayutthaya yn ystod amser y deyrnas Ayutthaya gan fasnachwyr Tsieineaidd
[4]
, ac yna eu newid dros amser i adlewyrchu blasau Gwlad Thai.
[5]
Mae'r awdur Mark Padoongpatt
[6]
yn honni nid yw pad thai yn bryd traddodiadol, dilys, sy'n mynd yn ol cannoedd o flynyddoedd. Fe’i crewyd mewn gwirionedd yn y 1930au yng Ngwlad Thai gan Plaek Phibunsongkhram, a oedd yn brif weinidog ar y pryd. Cafodd y pryd ei chreu oherwydd bod Gwlad Thai yn canolbwyntio ar adeiladu cenedl ar y pryd.
[1]
Felly fe greodd y pryd o fwyd hon gan ddefnyddio nwdls Tsieineaidd a'i galw'n pad Thai fel ffordd i sbarduno cenedlaetholdeb.
[7]
Esboniad arall am darddiad pad thai yw bod Gwlad Thai, yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, wedi dioddef prinder reis oherwydd y rhyfel a llifogydd. Er mwyn lleihau'r defnydd o reis domestig, hyrwyddodd llywodraeth Gwlad Thai, o dan y Prif Weinidog Phibunsongkhram, defnydd o nwdls yn lle.
[8]
Hyrwyddodd y llywodraeth nwdls reis er mwyn helpu i sefydlu hunaniaeth Gwlad Thai.
[1]
O ganlyniad, crewyd nwdls newydd o'r enw
sen chan
(a enwyd ar ol y dalaith Chanthaburi). Ers hynny mae Pad thai wedi dod yn un o brydiau cenedlaethol y wlad.
[9]
Heddiw, mae rhai gwerthwyr bwyd yn ychwanegu porc neu gyw iar (er nad oedd y rysait wreiddiol yn cynnwys porc oherwydd amgyffrediad y llywodraeth taw cig Tsieineaidd oedd porc).
[10]