Enw ar gyfnod yn hanes
yr Eglwys Gatholig
yw
Pabaeth Avignon
pan fu'r
pabau
yn breswyl yn
Avignon
yn ne-ddwyrain
Ffrainc
o 1309 hyd 1377. Teyrnasoedd saith pab o Avignon:
Clement V
(1305?14),
Ioan XXII
(1316?34),
Bened XII
(1334?42),
Clement VI
(1342?52),
Innocentius VI
(1352?62),
Urbanus V
(1362?70), a
Grigor XI
(1370?78).
Yn sgil marwolaeth y
Pab Bened XI
yn 1304, cynhaliwyd
conclaf
yn
Perugia
am flwyddyn gyfan bron i ddewis ei olynydd. Rhennid cydbwysedd grym y
cardinaliaid
rhwng y Ffrancod a'r Eidalwyr. O'r diwedd, etholwyd y Ffrancwr Raymond Bertrand de Got, cyn-archesgob
Bordeaux
nad oedd ei hun yn gardinal, yn Bab Clement V. O ganlyniad i'r ymraniadau a'r ymgecru yn
Rhufain
, llwyddodd
Philippe IV, brenin Ffrainc
i ddwyn perswad ar Clement V i symud prifddinas y Babaeth i Avignon. Ar y pryd, rhan o
Deyrnas Arles
, neu Deyrnas y Ddwy
Fwrgwyn
, yn
yr Ymerodraeth Lan Rufeinig
oedd Avignon.
Dan olynydd Clement, y Pab Ioan XXII, sefydlwyd
llys pabaidd
newydd yn Avignon i weinyddu materion eglwysig ac i gynnal cynghorau diwinyddol a gwleidyddol. Yn y cyfnod hwn hefyd cyflwynwyd diwygiadau i'r glerigiaeth, hyrwyddwyd addysg y prifysgolion, ac anfonwyd cenadaethau i wledydd pell, gan gynnwys
Tsieina
. Yn 1348 daeth Avignon dan berchenogaeth uniongyrchol y Babaeth.
Yn 1327 arweiniodd Ludwig, Dug Bafaria (yn ddiweddarach
Louis IV, Ymerawdwr Glan Rhufeinig
) ymgyrch i Rufain i orseddu
Marsilius o Padua
, yr hwn a gondemniwyd yn
heretic
gan Babaeth Avignon. Gwrthwynebwyd ail-leoliad y Babaeth gan sawl brenhinllin yn Ewrop, yn enwedig
Teyrnas Lloegr
, a oedd yn ei gweld yn daeogaidd i ddiddordebau Ffrainc. Er oedd bob un o'r saith pab a etholwyd, a 111 o'r 134 o gardinaliaid a benodwyd, yn Avignon yn Ffrancod, mae haneswyr diweddar wedi dangos nad oedd Pabaeth Avignon bob tro yn ildio i gymhellion y Ffrancod. Cafodd ei beirniadu hefyd gan y
Santes Gatrin o Siena
ac eraill am lygredigaeth a dirywiad moesol.
Dychwelodd y Babaeth i Rufain yn 1377 dan Grigor XI, ac etholwyd ail bab gan y cardinaliaid yn Avignon, gan sbarduno'r
Sgism Fawr
yn yr Eglwys Gatholig. Bu olyniaeth o
wrth-babau
yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall.