Dinas yng nghanolbarth talaith
Fflorida
yn
yr Unol Daleithiau
yw
Orlando
. Yn ol Cyfrifiad poblogaeth 2006 amcangyfrifwyd bod ganddi boblogaeth o 220,186 o bobl. Mae Orlando yn gartref i Brifysgol Canolbarth Fflorida, yr ail brifysgol o ran maint yn y dalaith a'r chweched yn y deyrnas.
Mae'r ddinas yn adnabyddus am nifer fawr o atyniadau i ymwelwyr sydd yn y cyffiniau, yn enwedig Walt Disney World Resort, sydd wedi'i leoli yn Lake Buena Vista rhyw ugain milltir (32 cilometr) i'r de o'r ddinas ar Interstate 4. Mae atyniadau amlwg eraill yn cynnwys SeaWorld ac Universal Orlando Resort. Mae tua 52 miliwn o dwristiaid y flwyddyn yn ymweld a'r ardal. Dim ond
Las Vegas
,
Nevada
sydd a rhagor o ystafelloedd gwesty yn yr Unol Daleithiau.