Ffwythiant mathemategol
sy'n disgrifio ymddygiad tonnol naill ai un
electron
neu bar o electronau mewn
atom
ydy
orbital atomig
.
[1]
Mae'r ffwythiant hwn yn gallu cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r posibilrwydd o ddod o hyd i electron mewn unrhyw adran o gwmpas niwclews yr atom.
Mae pob orbital mewn atom yn cael ei nodweddu gan set unigryw o werthoedd y tri rhif cwantwm
n
, ℓ, ac
m
, sy'n cyfateb i egni'r electron,
momentwm onglaidd
a chydran fector momentwm onglaidd, yn ol eu trefn. Gall unrhyw orbital gael ei feddiannu gan uchafswm o ddau electron, pob un a'i rhif cwantwm sbin ei hun. Mae'r enwau orbital s, p, d ac f yn cyfeirio at orbitalau gyda rhif cwantwm momentwm onglaidd (ℓ) o 0, 1, 2 a 3 yn ol eu trefn. Mae'r enwau hyn, ynghyd a'r gwerth
n
, yn cael eu defnyddio i ddisgrifio
ffurfweddau electronau
.
- ↑
Orchin, Milton; Macomber, Roger S.; Pinhas, Allan; Wilson, R. Marshall (2005).
Atomic Orbital Theory
(PDF)
.