Naruhito, Ymerawdwr Japan
|
---|
|
Ganwyd
| 浩宮?仁親王
23 Chwefror 1960
Hospital of the Imperial Household
|
---|
Man preswyl
| Tokyo Imperial Palace
|
---|
Dinasyddiaeth
| Japan
|
---|
Addysg
| Bachelor of Letters,
gradd meistr
, Master of Humanities, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| teyrn, pendefig
|
---|
Swydd
| Ymerawdwr Japan, Crown Prince of Japan, etifedd eglur
|
---|
Adnabyddus am
| The Thames and I
|
---|
Tad
| Akihito, Ymerawdwr Japan
|
---|
Mam
| Michiko
|
---|
Priod
| Empress Masako
|
---|
Plant
| Aiko, Princess Toshi
|
---|
Llinach
| Llys Ymerodrol Japan
|
---|
Chwaraeon
|
---|
llofnod
|
---|
|
Naruhito
(
Siapaneeg
: ?仁?) / Na'???cito /
Tocio
,
23 Chwefror
1960
), yw
Ymerawdwr Siapan
. Ei llawn yn Hiro-no-miya Naruhito Shinn? (浩 宮 ? 仁 親王?), Ef yw mab hynaf yr cyn-Ymerawdwr Akihito a'r Ymerodres Michiko. Naruhito yw'r cyntaf mewn olyniaeth i ddod yn 126fed ymerawdwr
Gorsedd yr Eurflodyn
(neu Gorsedd Chrysanthemum) a'r cyntaf i'w enw wedi'r
Ail Ryfel Byd
. Mae'n briod a Masako Owada, merch cyn-Weinidog Materion Tramor Siapan ac wyres i'r dyn busnes Yutaka Egashira.
Gorseddwyd Naruhito ar 1 Mai 2019 wedi i'w dad, yr
Ymeradwr Akihito
ymddeol o'r cyfrifoldeb o'i wirfodd. Cyferchir ef bellach fel 'Ei Fawrhydi Imperialaidd'.
Ganwyd Naruhito yn Ysbyty Asiantaeth y T? Ymerodrol yn y Palas Ymerodrol yn y brifddinas,
Tokyo
. O'i enedigaeth cafodd ei ddysgu beth fyddai ei rol yn y dyfodol. Ef yw'r unig etifedd i orsedd Siapan sydd wedi derbyn addysg mor ofalus a byd-eang. Addysgwyd ef ym Mhalas Tsugo dan archebion llym. Gyda'i oed yn cyrraedd, anfonodd yr ymerawdwyr ef i astudio Hanes yng
Coleg Merton, Rhydychen
, Lloegr, lle bu'n amddiffyn ei draethawd ymchwil ar longau ar
Afon Tafwys
yn y 18g. Ar ol dychwelyd i Siapan, ymrestrodd ym Mhrifysgol Gakush?in, gan ennill gradd Hanes ac arbenigo mewn Hanes Canoloesol Siapan. Yn ogystal, a siarad
Siapaneeg
a Saesneg mae'n siarad
Tsieineeg
,
Almaeneg
a pheth
Sbaeneg
. Yn ogystal, mae Naruhito yn canu'r
fiola
a'r
ffidil
.
Ers oed ifanc bu Naruhito yn cynrychioli ei dad sawl gwaith. Yn ei ddyddiau myfyrwyr, teithiodd yn eang ond dywedir ei fod yn cadw'n ffyddlon at draddodiadol cynhenid Siapan.
Etifeddodd yr orsedd ar 1 Mai 2019 a hynny wedi dwy flynedd o rybudd wedi i'w dad, Ymerawdwr Akihito, gyhoeddi yn 2017 y byddai'n ymddiswyddo ar 30 Ebrill 2019 oherwydd ei broblemau oedran a gwendid iechyd.
[1]
Priododd Naruhito ei wraig, Masako Owada, 9 Mehefin 1993 mewn ddefod
Shinto
; parhaodd y dathliadau ar gyfer yr uniad priodasol am dri diwrnod. Er iddo ddewis ei wraig o blith nifer o fenywod ar restr, mae wedi datgan ei fod mewn cariad llwyr a hi. Ar 31 Rhagfyr 1999, cafodd y Dywysygoes (fel oedd hi ar y pryd) Masako
erthyliad
.
Aiko, a aned ar 1 Rhagfyr 2001
[
golygu
|
golygu cod
]
Yn 2001 ganed Aiko, merch i'r par brenhinol. Roedd y ffaith bod merch wedi ei geni yn codi dadl genedlaethol gref dros newid Cyfraith Olyniaeth i'r Orsedd, gan na all menywod deyrnasu teyrnas Siapan. Ond penderfynwyd peidio newid rheol llinach y teulu brenhinol wedi igenedigaeth Hisahito, wyr gyntaf y cyn-Ymeradwr Akihito a chefnder i Aiko.
Ar adeg ei orseddi gelwir ei gyfnod fel Ymeradwr yn swyddogol fel 'Oes
Reiwa'
gan y Prif Weinidog
Shinzo Abe
. Ystyr Reiwa yw "harmoni prydferth".
[2]
.
- Llywydd Anrhydeddus Bwrdd Cynghori Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol y
Cenhedloedd Unedig
dros Dd?r a Glanweithdra.
- Is-lywydd Anrhydedd
y Groes Goch
Siapan