Maes mewn
gwyddoniaeth gymhwysol
a
technoleg
yw
nanotechnoleg
neu
nanogwyddionaeth
sy'n ymwneud a rheoli mater ar raddfa
atomig
a
moleciwlar
, fel rheol 100
nanomedr
neu lai, a chynhyrchu dyfeisiau a deunyddiau sydd a'u maintoli yn gorwedd o fewn y mesur hwnnw.
Mae llawer o ddefnyddiau newydd yn bosibl gyda’r dechnoleg yma o allu adeiladu deunyddiau allan o
atomau
. Defnyddir mewn oergelloedd neu mewn chwistrelli diheintio gan ei fod yn lladd
bacteria
, ffwng a firysau. Yn ychwanegol, gellir eu defnyddio mewn eli haul neu i greu gwydr hunanlanhau. Mae gronynnau nano mewn eli haul yn atal pelydrau uwchfioled rhag difrodi celloedd y croen a all achosi cancr. Defnyddir TiO2 a ZnO gan eu bod yn amsugno ac yn adlewyrchu golau uwchfioled. Gan eu bod yn dryloyw ac mae’n apelio mwy at ddefnyddwyr. Gosodir haen o ronynnau TiO2 nano-raddfa ar wydr hunanlanhau - mae’r rhain yn hydroffobig (gwrth-dd?r), mae baw yn torri i lawr mewn golau haul ac yn cael ei olchi i ffwrdd gan dd?r glaw.
Mae defnyddiau nano-raddfa a ddefnyddir heddiw wedi cael eu profi i sicrhau nad ydynt yn peri niwed i unigolion na’r amgylchedd ond nid ydym eto yn gwybod beth fydd eu heffeithiau hirdymor.
Gan fod gronynnau nano mor fach ac ysgafn gallant symud yn yr atmosffer. Hefyd gallant symud o gwmpas mewn afonydd. Mae rhain yn ffyrdd gall yn y pen draw gyraedd y corff.