- Am y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin, gweler
Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)
.
Mae'r
Mynydd Du
(weithiau 'Y Mynyddoedd Duon') yn gadwyn o fryniau yn ne-ddwyrain Cymru; gorwedd y rhan fwyaf o'r bryniau ym
Mhowys
a gogledd
Sir Fynwy
, ond mae rhan yn gorwedd yn
Swydd Henffordd
yn ogystal. Ffurfiant y mwyaf dwyreiniol o'r tri gr?p o fryniau sy'n rhan o
Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
; ni ddylid eu cymysgu a'r gr?p mwyaf gorllewinol a elwir yn
Fynydd Du
na'r copa o'r enw
Twyn Llech
a elwir yn 'Black Mountain' yn Saesneg. Gellir eu diffinio fel y bryniau sy'n gorwedd i'r gogledd o'r
Fenni
, i'r de o'r
Gelli Gandryll
, i'r dwyrain o lon yr
A479
(cwm
Rhiangoll
) ac i'r gorllewin o'r ffin a Lloegr. Ymlwybra
Llwybr Clawdd Offa
ar hyd y ffin ar eu hymyl dwyreiniol.
Golygfa o Grug Hywel ar gwm Grwyne Fechan yn y Mynydd Du
'Mynydd-dir' yw ystyr 'mynydd' yn yr enw 'Mynydd Du'.
[1]
Gwelir weithiau y ffurf 'Mynyddoedd Duon' (gan gynnwys ar fapiau'r
Arolwg Ordnans
). Ond cyfieithiad yw hynny o'r enw Saesneg 'Black Mountains' ac nid oes iddo sail hanesyddol.
[2]
Waun Fach
(811 m) yw'r mynydd uchaf; mae bryniau eraill yn cynnwys
Pen y Gadair Fawr
,
Pen-y-fal
,
Ysgyryd Fawr
,
Mynydd Troed
,
Craig Syfyrddin
,
Allt yr Esgair
,
Myarth
,
Mynydd Llangors
,
Bryn Arw
,
Penybegwn
, a
Thwyn Llech
.
Ychydig iawn o bentrefi a geir yn yr ardal fynyddig hon. Roedd hostel ieuenctid adnabyddus yng
Nghapel-y-ffin
, ond mae bellach wedi cau.
Mae'r hynafiaethau yn cynnwys
Priordy Llanddewi Nant Hodni
, castell
Tret?r
, y
bryngaer
o
Oes yr Haearn
ar
Grug Hywel
, a
Castell Dinas
(
11g
-
13g
).
Er bod yr ardal hon yn croesi'r ffin, clywid y Gymraeg yno tan yn gymharol ddiweddar. Pan aeth J. E. Southall ar daith o gwmpas Cymru ym 1892, darganfuwyd bod yr iaith wedi darfod yn Swydd Henffordd tua'r 1880au ond fe gyfarfu Southall a ffarmwr tua 40 oed a oedd yn gallu siarad tipyn bach. Wedi hynny fe aeth i bentre Cwm-iou lle siaradodd Gymraeg a pherchennog y tafarn, ond fe ddywedodd y perchennog nad oedd llawer o Gymraeg ar ol yn y pentre. Aeth ymhellach lan Cwm Ewias nes cyrhaeddodd bentre Llanddewi Nant Hodni (neu 'Llantoni' ar lafar) lle medrai pawb dros 50 siarad yr iaith.
Yn ogystal a hynny, aeth T. J. Morgan i gwm Grwyne Fechan ym 1939 lle recordiodd siaradwyr olaf yr ardal gan gynnwys John Williams a oedd yn byw yn y felin ac Agnes Jones o Lanbedr.
Credir i'r hen bobl olaf a wyddai'r iaith farw tua 1950.