한국   대만   중국   일본 
Mustafa Kemal Ataturk - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Mustafa Kemal Ataturk

Oddi ar Wicipedia
Mustafa Kemal Ataturk
Ganwyd Ali Rıza o?lu Mustafa  Edit this on Wikidata
1881  Edit this on Wikidata
Thessalonici   Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Tachwedd 1938  Edit this on Wikidata
Dolmabahce Palace  Edit this on Wikidata
Man preswyl Thessalonici , ?ahinbey  Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Twrci , yr Ymerodraeth Otomanaidd   Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Turkish Military Academy
  • Monastir Military High School
  • Ottoman Military College  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd , swyddog milwrol, gwladweinydd , ysgrifennwr , chwyldroadwr, swyddog y fyddin  Edit this on Wikidata
Swydd Arlywydd Twrci, Aelod o Uwch Gynulliad Cenedlaethol Twrci, Chairman of the Cabinet of the Executive Ministers of Turkey, Prif Weinidog Twrci  Edit this on Wikidata
Taldra 174 centimetr  Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Republican People's Party  Edit this on Wikidata
Tad Ali Rıza Efendi  Edit this on Wikidata
Mam Zubeyde Hanım  Edit this on Wikidata
Priod Latife U?aki  Edit this on Wikidata
Plant Sabiha Gokcen, Ulku Adatepe, Abdurrahim Tuncak, Afet ?nan, Zehra Aylin, Rukiye Erkin, Nebile ?rdelp, Sı?ırtmac Mustafa  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Alecsander, Medal of Independence, Liakat Medal, Gallipoli Star, Imtiyaz Medal, Y Groes Haearn, Military Merit Cross III. Class, Bronze Military Merit Medal, Silver Military Merit Medal, 1st Class Order of the Crown, Dosbarth 1af, Urdd y Medjidie, 2nd class, Order of the Medjidie, 5th class, Order of the Medjidie, Order of Osmanieh 2nd Class, Order of Osmanieh 3rd Class, Order of Osmanieh 4th Class, Iron Cross 2nd Class, Order of Osmanieh, Order of the Crown (Prussia), Military Merit Cross, Medal Teilyngdod Milwrol  Edit this on Wikidata
llofnod
Mustafa Kemal Ataturk

Cyfnod yn y swydd
29 Hydref 1923  –  10 Tachwedd 1938
Olynydd ?smet ?nonu

Cyfnod yn y swydd
3 Mai 1920  –  24 Ionawr 1921
Olynydd Fevzi Cakmak

Geni

Mustafa Kemal Ataturk ( 1881 ? 10 Tachwedd 1938 ), neu Gazi Mustafa Kemal Pasha (hyd 24 Tachwedd 1934 ), oedd sylfaenydd Gweriniaeth Twrci a'i harlywydd cyntaf. Cafodd ei eni yn Salonika (gogledd Gwlad Groeg heddiw).

Gwnaeth Mustafa Kemal enw iddo'i hun fel swyddog milwrol llwyddiannus tra'n gwasanaethu ym myddin Twrci ym Mrwydr Gallipoli yn y Dardanelles , yn y Rhyfel Byd Cyntaf . Ar ol i Ymerodraeth yr Otomaniaid golli yn y rhyfel hwnnw a'r cynlluniau gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus i'w thorri i fyny, arweiniodd Ataturk y mudiad cenedlaethol Twrcaidd mewn ymdrech a droes yn Rhyfel Annibyniaeth Twrci . Ar ol cyfres o gyrchoedd milwrol llwyddiannus llwyddodd i ryddhau'r wlad a sefydlu Gweriniaeth Twrci. Fel arlywydd cyntaf ei wlad, dechreuodd Ataturk ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol a cheisiodd greu gwladwriaeth seciwlar, fodern a democrataidd . Ymhlith ei ddiwygiadau oedd cael gwared o'r hen wyddor Arabaidd a chyflwyno un newydd seiliedig ar y wyddor Rufeinig a symleiddio gramadeg yr iaith Dwrceg ei hun.

Ar 24 Tachwedd, 1934 , fel cydnabyddiaeth o'i ran hollbwysig yn sefydlu'r Twrci fodern, rhoddodd Cynulliad Cenedlaethol Twrci yr enw "Ataturk" iddo (sy'n golygu "Tad y Tyrciaid" neu "Hynafiad y Tyrciaid"). Pan fu farw bedair blynedd yn ddiweddarach codwyd beddrod ardderchog iddo ar bryn uchel yn y brifddinas newydd, Ankara . Mae'r beddrod yn ganolfan pererindod wlatgar ac yn symbol amlwg o'r Twrci fodern mewn cyferbyniaeth a'r gorffennol.