Band
roc
o
Teignmouth
yn
Nyfnaint
,
De-orllewin Lloegr
, yw
Muse
. Mae eu cerddoriaeth yn cynnwys elfennau o
roc amgen
,
roc caled
,
roc blaengar
,
cerddoriaeth glasurol
ac
electronica
. Ffurfiwyd y band ym 1994 gan y prif leisydd, gitarydd a phianydd
Matthew Bellamy
, y gitarydd bas
Christopher Wolstenholme
a'r drymiwr
Dominic Howard
. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf,
Showbiz
, ym 1999. Maen nhw'n adnabyddus am eu perfformiadau byw ac maen nhw wedi ennill sawl gwobr.