Mudiad dyngarol gyda'r amcan o warchod bywyd dynol a lleihau dioddefaint yw
Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch
(
Ffrangeg
:
Mouvement international de la Croix-Rouge et du Croissant-Rouge
,
Saesneg
:
International Red Cross and Red Crescent Movement
). Mae'r mudiad yn cynnwys nifer o sefydliadau, sydd yn gyfreithiol ar wahan ond yn cydweithredu a'i gilydd. Trwy'r byd, mae gan y mudiad tua 97 miliwn o wirfoddolwyr.
Sylfaenwyd y mudiad gan ?r busnes o'r
Swistir
,
Henry Dunant
. Ym mis Mehefin
1859
, teithiodd i'r
Eidal
a bu'n dyst i
Frwydr Solferino
. Lladdwyd neu clwyfwyd tua 40,000 o filwyr yn y frwydr, a gwelodd Dunant mai ychydig iawn o ofal oedd ar gael i'r clwyfedigion. Ar
9 Chwefror
1863
, sefydlodd bwyllgor yn ninas
Genefa
, a ddatblygodd i fod yn fudiad rhyngwladol.
Mewn gwledydd nad sy'n swyddogol Gristnogol ceir gwasanaethau tebyg sy'n rhan o'r un corff ryngwladol ond yn gwasanaethu o dan symbolau nad sy'n Gristnogol:
Mabwysiadwyd y groes goch ar gefndir gwyn fel symbol, sef baner y Swistir gyda'r lliwiau wedi eu gwrthdroi. Yn y 1870au, dechreuwyd defnyddio y cilgant coch fel symbol mewn gwledydd
Islam
.
Gwraidd y syniad o sefydlu
Magen David Adom
("Seren Goch Dafydd";
Hebraeg
: ??? ??? ?????, abbr. MDA, ynganner MAH-dah megis ei acronym Hebraeg, ??"?) oedd Dr. Erlanger yn Lucerne, yn y
Swistir
yn 1915 er mwyn cynorthwyo milwyr Iddewig yn y
Rhyfel Byd Cyntaf
.
[1]
Gyda diwedd y Rhyfel dadfeiliodd y mudiad nes ailgychwyn arni, ymddengys yn 1930 yn dilyn gwrthdrawiadau gwrth-Iddewig ym
Mhalesteina
yn 1929. Dyweidir mai nyrs, Karen Tenenbaum yn
Tel Aviv
bu'r prif sbardyn. Tyfodd o'r un gangen wreiddiol i gorff gwirfoddol sy'n gweithredu ar draws Israel gan gynnwys i rai nad sy'n Iddewon megis Mwslemiaid, Druize a Christnogion. Mae amcanion Magen David yn cynnwys cynnal gwasanaethau cymorth cyntaf; cynnal gwasanaeth storio gwaed, plasma a'u sgil-gynhyrchion; cyfarwyddyd mewn cymorth cyntaf a meddygaeth frys cyn-ysbyty; gweithredu rhaglen wirfoddoli lle caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf, cymorth bywyd sylfaenol ac uwch gan gynnwys unedau gofal dwys symudol; cludo cleifion, menywod wrth esgor, a gwacau'r rhai sydd wedi'u hanafu a'u lladd mewn damweiniau ffordd; cludo meddygon, nyrsys a heddluoedd ategol meddygol.
Bu gwrthwynebiad ryngwladol i gydnabod Magen David Adom ond ers mis Mehefin 2006, mae'r MDA wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan
Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch
(ICRC) fel cymdeithas cymorth genedlaethol gladwriaeth
Israel
o dan Gonfensiynau Genefa, ac yn aelod o
Ffederasiwn Rhyngwladol o Gymdeithasau y Groes Goch a'r Cilgant Coch
. Mae gan MDA rif ffon brys meddygol penodol yn Israel, 101. Ond mae'n gweithredu yn fyd-eang.
Bu hefyd
Cymdeithas y Llew a'r Haul Goch
yn gwasnaethu Ymerodraeth Persia (
Iran
) gan mae'r
cilgant
oedd symbol baner
Ymerodraeth yr Otomaniaid
prif elyn Persia a'r Groes oedd symbol Ymerodraeth Rwsia, gelyn arall Persiaid i'r gogledd. Gyda llwyddiant y Chwyldro Islamaidd yn Iran 1979 daeth y symbol Cilgant fwslemaidd yn fwy poblogaidd a prin gwelir symbol yr Llew a'r Haul Goch bellach, er bod Iran yn dal yr hawl i'w defnyddio.