Crefydd
a ddechreuodd yn
Unol Daleithiau America
yn
1831
, ar ol i
Joseph Smith, Jr.
honni iddo gael datguddiad oddi wrth
Dduw
yw
Mormoniaeth
. Mae gan yr eglwys Formonaidd mwy na 11 miliwn o aelodau.
Y mwyaf o'r enwadau Mormonaidd yw
Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
.
Mae gan y Mormoniaid gysylltiadau hanesyddol cryf a
Chymru
, yn enwedig y de. Bu cenhadon Mormonaidd yn weithgar yng Nghymru yn y 1840au a'r 1850au, a throdd miloedd o bobl i'r grefydd newydd. Ymfudodd nifer ohonyn nhw i America, ac aeth cyfran sylweddol o'r ymfudwyr hynny ar y Symudiad mawr i'r Gorllewin gyda
Brigham Young
, a ddechreuodd yn 1847. Ymsefydlodd y Cymry gyda'r Mormoniaid eraill yn
Utah
, a dywedir fod tua 20% o boblogaeth y dalaith honno o dras Gymreig heddiw.
[1]
Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a llyfr yn y Gymraeg gan y Mormoniaid yn y 19g, yn cynnwys
Utgorn Seion
.
Daniel Jones (Mormon)
(g. 4 Awst 1811) o
Abergele
oedd un o'u harweinwyr. Wedi iddo ymfudo i America troes Daniel Jones yn Formon wrth ei waith yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn cwch a oedd dan ei ofal. Roedd gyda Joseph Smith ar y 26 Mehefin 1844 lofruddiwyd ef. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd i Gymru yn genhadwr Mormonaidd. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan a chyhoeddi yno gyfnodolyn misol,
Prophwyd y Jubili
. Hwyliodd o
Lerpwl
ar 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o Gymry, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau gan gyrraedd Salt Lake City ar 26 Hydref 1849 gyda'r fintai yn teithio mewn 25 o wagenni caeedig. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth a 703 o 'seintiau Cymreig' i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn gapten cwch ar lyn Great Salt. Bu farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.