한국   대만   중국   일본 
Mont Ventoux - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Mont Ventoux

Oddi ar Wicipedia
Mont Ventoux
Math mynydd , hopgefn, free flight site  Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Vaucluse   Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc  Ffrainc
Uwch y mor 1,912 metr  Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 44.17°N 5.28°E  Edit this on Wikidata
Amlygrwydd 1,150 metr  Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Vaucluse Mountains  Edit this on Wikidata
Map
Deunydd calchfaen   Edit this on Wikidata

Mynydd yn ardal Provence , Ffrainc yw Mont Ventoux ( Ocsitaneg : Ventor yn y ffurf glasurol neu Ventour yn y ffurf Mistraliaidd), lleolir tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o Carpentras , Vaucluse . Mae'r mynydd yn ffinio a departement Drome ar yr ochr ogleddol. Hon yw'r mynydd mwyaf yn yr ardal, ac mae wedi etifeddu'r llysenw "Cawr Provence", neu "Y Mynydd Moel". Mae wedi dod yn enwog oherwydd iddo cael ei ddefnyddio yn aml yn ras seiclo y Tour de France .

Fel y mae'r enw yn ei awgrymu (mae venteux yn golygy gwyntog yn Ffrangeg ), gall fod yn wyntog iawn ar y copa, yn arbennig y gwynt mistral ; mae gwyntoedd hyd at 320 km/a (200 mya) wedi cael eu cofnodi. Mae'r gwynt yn chwythu drost 90 km/a (56+ mya) 240 diwrnod y flwyddyn. Mae'r ffordd drost y mynydd ar gau yn aml oherwydd y gwyntoedd cryf. Mae'r "col de tempetes" ("bwlch y storm") ychydig cyn y copa yn enwedig yn adnabyddus am ei wyntoedd cryf. Credir i darddiad gwreiddiol yr enw ddod o'r ganrif 1af neu'r 2il ganrif OC, pan elwyd yn 'Vintur' ar ol duw Galaidd y copaon, neu 'Ven-Top', sy'n golygu "copa eiraog" yn iaith hynafol Galaidd. Mae'r enwau Mons Ventosus a Mons Ventorius yn ymddangos yn ystod y 10g.

Er fod Mont Ventoux yn rhan daearegol o'r Alpau, cysidrir yn aml i fod arwahan iddynt, oherwydd y diffyg o fynyddoed mawrion eraill o'i chwmpas. Mae'n sefyll un unig i'r gogledd o gadwyn Luberon , wedi ei gwahanu oddi wrthynt gan y Monts de Vaucluse , ac i'r dwyrain o Dentelles de Montmirail , yn ei bryniau godre. Mae copa'r mynydd yn carreg galch moel heb llysdyfiant na choed, mae hyn yn achosi i'r mynydd edrych fel petai wedi ei gorchuddio gan eira drwy gydol y flwyddyn. Mae fel arfer ond o dan eira rhwng Rhafyr ac Ebrill. Mae ei sefyllfa unig yn nyffryn yr Afon Rhone yn cadarnhau ei ddominyddiaeth o'r ardal a gellir ei weld o filltiroedd pell ar ddiwrnod clir, ac mae'r olygfa o'r copa yr un mor rhagorol.