Gwleidydd
Cymreig
o dras
Bacistannaidd
oedd
Mohammad Asghar
AS
(
30 Medi
1945
?
16 Mehefin
2020
)
[3]
[4]
a elwid yn Oscar.
[5]
Bu'n
Aelod o'r Senedd
dros ranbarth
Dwyrain De Cymru
rhwng 2007 a 2020.
Ef oedd yr aelod cyntaf o
leiafrif ethnig
[1]
a'r
Mwslim
cyntaf
[2]
i gael ei ethol i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru
, a'r AC cyntaf i newid ei blaid. Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol, a chyn hynny Plaid Cymru a Llafur.
[6]
Safodd Asghar yn gyntaf fel ymgeisydd
Plaid Cymru
dros ranbarth
Dwyrain De Cymru
yn
etholiadau Cynulliad 2003
,
[7]
ond heb ennill sedd. Fe'i etholwyd ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru yn
etholiadau Cynulliad 2007
[1]
gan ennill 25,915 o bleidleisiau.
[5]
Dywedodd:
“
|
Mae'n adeg hynod o gyffrous, ond ar y funud mae'n anodd disgrifio sut dwi'n teimlo. Bydda i'n gwneud fy ngorau glas i wasanaethu
cymunedau ethnig
.
[1]
|
”
|
Tra'n AC Plaid Cymru fe gyhuddodd Asghar
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
o "godi bwganod" pan datganant y gall
treth y cyngor
codi 8-10% yn 2008.
[8]
Fe agorodd cynhadledd wanwyn Plaid Cymru yng
Nghasnewydd
ym Mawrth 2008.
[9]
Yn 2008 gwahoddodd Asghar Ron Prosor, llysgennad
Israel
yng ngwledydd Prydain, i'r
Senedd
ym Mae Caerdydd i hyrwyddo
deialog rhyng-grefyddol
. Dywedodd Asghar, "Mae'r
ymladd rhwng Israel a'r Palesteiniaid
ymhlith y mwyaf ffyrnig yn y byd, felly mae'n rhaid inni ddeall dwy ochr y ddadl."
[10]
Mewn e-bost a gafodd ei ryddhau i'r wasg, ysgrifennodd
yr Arglwydd Elis-Thomas
,
Llywydd y Cynulliad
, "Dydw i ddim yn fodlon derbyn y gwahoddiad i gwrdd a'r llysgennad oherwydd fy mod yn gwrthwynebu methiant gwladwriaeth Israel i gwrdd a'i hymrwymiad rhyngwladol tuag at bobl
Palesteina
. Dwi'n gwahodd cydweithwyr i wneud yr un fath."
[10]
Ar 24 Mehefin 2008 fe groesawyd Prosor i'r Senedd gan dderbyniad o dua 15 o ACau. Tu allan i'r Senedd roedd tua 30 o bobl yn cynnal protest heddychlon, a rhai ACau yn eu hymuno.
[11]
Asghar oedd llefarydd Plaid Cymru ar sgiliau a hyfforddiant. Roedd yn aelod o
Bwyllgor Cyllid
a
Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
y Cynulliad.
[5]
Ar 8 Rhagfyr 2009 ymunodd Asghar a'r
Ceidwadwyr Cymreig
, gan godi'r nifer o ACau Ceidwadol i 13 a gostwng y nifer o ACau Plaid i 14.
[6]
Dywedodd Asghar:
“
|
Am beth amser rwyf wedi teimlo nad wyf yn gwbl gyfforddus gyda syniadau a pholisiau Plaid Cymru. Mae fy ngwleidyddiaeth, sef eisiau Cymru fwy cryf o fewn Prydain sy'n llwyddiannus, yn debyg i wleidyddiaeth Mr [
Nick] Bourne
[arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad].
[6]
|
”
|
Yn ogystal dywedodd ei fod yn credu yn y "
teulu brenhinol
a'r
Deyrnas Unedig
",
[6]
ac roedd yn teimlo fel "parot bach mewn jyngl" fel aelod o Blaid Cymru.
[12]
Cadarnhaodd Asghar roedd unwaith yn aelod o'r Blaid Geidwadol cyn iddo ymuno a Phlaid.
[12]
Ymunodd ei ferch, Natasha Asghar, a'r Ceidwadwyr ar yr un ddiwrnod yn ogystal.
[12]
Croesawyd hyn gan Bourne fel "diwrnod bendigedig i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru". Dywedodd
Ieuan Wyn Jones
, arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn "synnu i ni glywed y peth yn gyntaf gan aelodau'r wasg", a dywedodd llefarydd ar ran Plaid y dylai Asghar ymddiswyddo "gan i bobl y rhanbarth fwrw eu pleidlais dros aelod o Blaid Cymru ac nid aelod o'r Blaid Geidwadol".
[6]
Dywedodd Colin Mann, oedd yn yr enwebiad nesaf ar restr Plaid yn Nwyrain De Cymru, bod Asghar wedi "bradychu'r bobol a bleidleisiodd drosto".
[13]
Er bod
Rod Richards
wedi gadael y Ceidwadwyr i fynd yn
annibynnol
, Asghar yw'r AC cyntaf i ymuno a phlaid arall,
[2]
ac felly mae'r achos o AC a etholir ar restr ranbarthol yn newid ei blaid yn ddigynsail. Mewn colofn barn yn
Golwg
fe ysgrifennodd
Dylan Iorwerth
bod penderfyniad Asghar i groesi'r Siambr yn "dangos bod angen newid yng nghyfraith y Cynulliad" gan fod etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau am seddau
rhanbarthau
yn hytrach nag unigolion.
[14]
Atseinwyd hyn gan
Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru
, a nododd bod gan wledydd eraill sy'n defnyddio rhestri rhanbarthol wahanol ffyrdd o ddatrys "problem Mohammad", e.e. yn
Seland Newydd
, os yw aelod rhestr yn gadael ei blaid caiff ei ddisodli yn awtomatig gan y person nesaf ar y rhestr, ond yn
yr Almaen
, nid yw hynny'n digwydd gan fod
rhyddid cydwybod
wedi ei osod mewn cyfraith.
[15]
Awgrymodd cyfarwyddwr y Gymdeithas Newid Etholiadol, Anabelle Harel, y dylai rhestri rhanbarthol Cynulliad Cymru defnyddio'r
Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy
, yr un system a
Gwobrau'r Academi
(yr Oscars), gan ddweud:
“
|
Fel mae'r Academy yn ei wneud gyda’i enwebiadau Oscar, dylem ddefnyddio system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Dan y system honno fe fyddai gan bob un o Aelodau'r Cynulliad
fandad
personol cryfach. Os oes gan unigolyn safbwynt gwahanol i'w blaid ar ambell bwnc, mi fydd yr etholwyr yn gwybod hynny ac yn pleidleisio fel maen nhw’n dymuno.
[15]
|
”
|
Ar 15 Rhagfyr dywedodd Asghar mewn cyfweliad a
Radio Dinas Casnewydd
taw penderfyniad Plaid Cymru i beidio a gadael i'w ferch Natasha weithio iddo oedd y prif reswm iddo groesi'r Siambr. Dywedodd Plaid eu bod wedi atal merch Asghar rhag gweithio iddo yn dilyn argymhellion adroddiad Syr
Christopher Kelly
, a gyhoeddwyd yn dilyn
sgandal treuliau Aelodau Seneddol
yn
San Steffan
(oedd yn awgrymu na ddylai ASau gyflogi aelodau o'u teuluoedd), ac adroddiad Syr
Roger Jones
yn dilyn
sgandal treuliau ACau
(oedd yn awgrymu i ACau yr un peth). Yn ol Asghar cafodd gair y
Dirprwy Brif Weinidog
Ieuan Wyn Jones
y gall ei ferch weithio iddo. Yn ogystal, nid yw Asghar yn credu bod rheolau penodol i wahardd hynny, a dywedodd y bydd yn rhoi tal ei ferch i elusen. Honnodd Plaid bod Asghar wedi cael sicrhad gan y Ceidwadwyr y byddai ei ferch yn cael gweithio iddo petai'n croesi atynt.
[16]
Yn Ionawr 2010 cyhoeddwyd bod enw Natasha Asghar ar restr o staff cynorthwyol ei thad. Dywedodd Mohammad Asghar fod ei ferch yn gweithio iddo yn achlysurol, yn wirfoddol, ac yn ddi-dal.
[17]
[18]
Ganwyd Asghar ym
Mheshawar
ym Mhakistan ym 1945 pan oedd y wlad yn rhan o
India Brydeinig
. Roedd yn siarad Wrdw, Hindi a Punjabi yn rhugl. Mynychodd
Prifysgol Peshawar
a
Choleg Gwent
.
[19]
Roedd Asghar yn chwarae
criced
yn ei amser hamdden ac wedi ymgyrchu dros gael tim criced i Gymru. Roedd yn berchen ar
drwydded peilot preifat
.
[5]
[20]
Yn Hydref 2007 roedd Asghar yn un o gr?p o wleidyddion a gafodd eu gwahodd gan gyn-brif weinidog Pacistan
Benazir Bhutto
fel sylwedyddion amhleidiol i sicrhau bod Bhutto yn cael ei thrin yn deg wrth ddychwelyd i'r wlad ar ol byw'n alltud am wyth mlynedd. Ar 18 Hydref 2007 roedd Asghar ychydig o droedfeddi o
ffrwydradau
yn
Karachi
oedd yn targedu cerbyd Bhutto. Ni chafodd ei anafu gan fod dau
uchelseinydd
rhyngddo fo a'r bomiau. Dywedodd Asghar ar ol y digwyddiad:
“
|
Ar ol s?n enfawr a fflach roedd cyflafan. Gwelais i fam yn chwilio am ei mab 21 oed - ychydig o funudau'n gynt roeddwn i wedi gweld ei gorff. Dwi ddim wedi cael profiad fel hwn o'r blaen. Dwi ddim yn siwr sut y llwyddais i oroesi.
[21]
|
”
|
Roedd yn briod a Firdaus a chawsant ferch,
Natasha
a ddilynodd ol-traed ei thad drwy gael ei hethol fel Aelod o'r Senedd yn 2021.
[22]
Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ar fore 16 Mehefin 2020, a bu farw yn ddiweddarach.
[4]
Cynhaliwyd ei angladd yng Nghasnewydd ar 25 Mehefin 2020.
[23]
- ↑
1.0
1.1
1.2
1.3
"
Aelod ethnig cynta'r cynulliad
",
BBC
, 4 Mai 2007.
- ↑
2.0
2.1
2.2
"
Mohammad Asghar yn gadael Plaid Cymru
",
Golwg360
, 8 Rhagfyr 2009.
- ↑
"ASGHAR, Mohammad, "Who's Who 2009
"
"
. A & C Black, 2008. Online ed., Oxford: OUP. 2008
. Cyrchwyd
4 Ionawr
2009
.
- ↑
4.0
4.1
Mohammad Asghar wedi marw
, Golwg360, 16 Mehefin 2020.
- ↑
5.0
5.1
5.2
5.3
Bywgraffiadau Aelodau'r Cynulliad: Mohammad Asghar
.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
.
- ↑
6.0
6.1
6.2
6.3
6.4
"
AC Plaid yn ymuno a'r Ceidwadwyr
",
BBC
, 8 Rhagfyr 2009.
- ↑
"
Yr Ymgeiswyr
",
BBC
, 10 Ebrill 2003.
- ↑
"
Treth y cyngor: Codi'n sylweddol?
",
BBC
, 13 Tachwedd 2007.
- ↑
"
Plaid: 'Edrych yn ol ac ymlaen'
",
BBC
, 28 Mawrth 2008.
- ↑
10.0
10.1
"
Ffrae am ymweliad llysgennad
",
BBC
, 11 Mehefin 2008.
- ↑
"
Croeso cynnes i lysgennad Israel
",
BBC
, 24 Mehefin 2008.
- ↑
12.0
12.1
12.2
(Saesneg)
"
Plaid Cymru AM joins the Conservatives
",
WalesOnline
, 8 Rhagfyr 2009.
- ↑
"
Mohammad Asghar wedi ‘bradychu’ etholwyr
",
Golwg360
, 10 Rhagfyr 2009.
- ↑
Dylan Iorwerth
. "
Rhaid newid y gyfraith
",
Golwg360
, 8 Rhagfyr 2009.
- ↑
15.0
15.1
"
Asghar - dilyn yr Oscars i ddatrys dryswch Oscar
",
Golwg360
, 9 Rhagfyr 2009.
- ↑
"
Newid plaid er mwyn i’w ferch gael gweithio iddo
",
Golwg360
, 15 Rhagfyr 2009.
- ↑
(Saesneg)
"
Daughter of AM who left Plaid to join the Tories is now on his staff
",
Western Mail
, 26 Ionawr 2010.
- ↑
"
Merch Mohammad Asghar 'yn gweithio iddo'
",
Golwg360
, 26 Ionawr 2010.
- ↑
(Saesneg)
"
Mohammed Asghar
",
South Wales Argus
, 23 Ebrill 2007.
- ↑
"Tory Senedd member Mohammad Asghar has died"
.
BBC News
(yn Saesneg). 2020-06-16
. Cyrchwyd
2020-06-16
.
- ↑
"
AC Plaid Cymru: 'Ysgytwad'
",
BBC
, 19 Hydref 2007.
- ↑
Y Ceidwadwyr Cymreig yn dathlu eu perfformiad gorau erioed yn y Senedd
, Golwg360, 8 Mai 2021. Cyrchwyd ar 12 Mai 2021.
- ↑
Mourners line the streets in tribute to Welsh Conservative MS Mohammad Asghar
(en)
, WalesOnline, 25 Mehefin 2020.