Mae
model
yn berson sy'n gosod ei hun neu'n arddangos ei hun er mwyn
celf
,
ffasiwn
neu
hysbysebu
a chynhyrchion eraill. Nid yw na oed na rhyw yn ffactor hollbwysig - gall model fod yn ddyn neu ddynes neu blentyn - ond ceir mwy o fodelau benywaidd ifanc.
Serch hynny, nid yw'r ffin bob amser yn gwbl glir o ran meysydd fel
actio
,
dawnsio
neu feimio. Yn gyffredinol, nid yw ymddangos mewn
ffilm
yn cael ei ystyried yn fodelu, waeth beth yw'r rol ei hun. Fodd bynnag, disgwylir i fodelau arddangos emosiwn yn eu ffotograffau ac mae nifer o fodelu wedi disgrifio'u hunain fel actorion.
Ceir gwahanol fathau o fodelu gan gynnwys glamor, ffasiwn,
bicini
, celf-fanwl a modelau rhannau o'r corff. Mae rhai modelau yn modelu'n noeth, er mwyn celf neu adloniant.
Nid yw pob model yn brydferth: mae modelau cymeriad yn portreu pobl gyffredin neu ddoniol, ac fe'u gwelir gan amlaf mewn gwaith print ac mewn hysbysebion.
- Categori:Modelau Cymreig