Dysgeidiaeth ac athrawiaeth a rennir gan gr?p o enwadau
Cristnogol
Protestannaidd
sydd a chysylltiadau hanesyddol rhyngddynt yw
Methodistiaeth
. Gellir olrhain hanes Methodistiaeth i'w darddiad yn athrawiaeth efengylaidd
John Wesley
. Dechreuodd yn yr
18g
ym
Mhrydain
trwy weithredau cenhadol egniol, a lledaenodd i sawl rhan o'r
Ymerodraeth Brydeinig
, yr
Unol Daleithiau
, a'r tu hwnt.
Yng
Nghymru
dechreuodd y Methodistiaid ymledu ar draws y wlad ganol y 18g, o'u gwreiddiau yn y de-orllewin a
Brycheiniog
, diolch yn bennaf i waith cenhadol
Howel Harris
a'i gylch.