한국   대만   중국   일본 
Mer esgyrn - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Mer esgyrn

Oddi ar Wicipedia
Mer esgyrn
Enghraifft o'r canlynol meinwe , dosbarth o endidau anatomegol, cynnyrch bwyd  Edit this on Wikidata
Math meinwe , zone of bone organ, blood forming organ, endid anatomegol arbennig  Edit this on Wikidata
Yn cynnwys bone marrow cells  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mer esgyrn yw'r meinwe gyswllt meddal brasterog sy'n llenwi'r rhan fwyaf o geudodau esgyrn. Gyda bodau dynol, mae cell goch y gwaed yn cael eu cynhyrchu gan rhan tu mewn i'r mer ym mhen esgyrn hirion mewn proses a elwir yn waedfagu (hemopoiesis). Ar gyfartaledd mae mer esgyrn yn gyfwerth a 4% o mas y corff o fodau dynol; mewn oedolyn sydd a mas o 65 kg (143 lb), fyddai mer yn cyfateb i tua 2.6 kg (5.7 lb). Mae'r cyfansoddyn gwaedfagol (hematopoietig) o mer yn cynhyrchu tua 500 biliwn cell gwaed y diwrnod, sy'n defnyddio system fasgwlaidd y mer fel cwndid i system gylchredol y corff. [1] Mae mer hefyd yn elfen allweddol i'r system lymffatig , gan gynhyrchu'r lymffosytau sy'n cefnogi system imiwnedd y corff. [2] Yn ychwanegol i'r celloedd gwaedfagol, mae'r mer yn cynnwys meinwe bloneg yn ogystal a'r asgwrn meddal (trabecwlaidd). Gall y gydadwaith rhwng y gwahanol celloedd yma a'u ffactorau lleol maent yn creu cael effaith ar gelloedd gwaedfagol o fewn y gilfach bon-gell gwaedfagol.

Gall trawsblaniad mer cael ei gynnal er mwyn trin clefydau difrifol y mer, gan gynnwys mathau penodol o canser megis lewcemia . Yn ychwanegol mae bon-gelloedd wedi cael eu newid, yn llwyddiannus, i gelloedd niwral gweithredol, [3] ac hefyd, o bosib, yn gallu cael eu defnyddio i trin clefydau megis clefyd coluddyn llidus. [4]

Y ddau fath o mer yw ‘mer coch’ ( Lladin : medulla ossium rubra ), sy'n cynnwys yn bennaf meinwe waedfagol [celloedd cochion y gwaed] a ‘mer melyn’ (medwla) sy'n cynnwys yn bennaf celloedd bras. Mae celloedd cochion , platennau a rhan helaeth o'r celloedd gwynion i'w weld yn y mer. Mae'r ddau fath o mer yn cynnwyr nifer o bibellu gwaed a carpilariau. Ar eni, mae'r ddau fath o mer yn goch. Gyda oedran, mae mwy a mwy ohono yn cael ei droi i'r mer melyn; dim ond hanner o mer oedolion sy'n goch. Mae mer coch fel arfer yn cael ei ddarganfod yn yr esgyrn gwastad megis y pelfis , sternwm, penglog , asennau, fertebrau a'r pedyll ysgwyddau (sgapwlau) ag yn yr deunydd trabecwlaidd (asgwrn meddal) ar bennau ardyfiannol agosaf esgyrn hirion megis asgwrn y forddwyd a'r hwmerws. Mae mer melyn iw weld yn y geudod medwlaidd, y gwacle yng nghanol esgyrn hirion. Mewn achosion difrifol o golli gwaed, mae'r corff yn gallu newid y mer melyn i fer coch er mwyn cynyddu cynhyrchiad celloedd cochion y gwaed.

Stroma [ golygu | golygu cod ]

Stroma'r mer yw'r holl meinwe sydd ddim yn gysylltiedig yn uniongyrchol a prif weithred y mer o waedfagu (hemopoiesis). Mae mer melyn yn cyfrannu at rhan helaeth storma'r mer, yn ychwanegol at grynodiadau o gelloedd stroma wedi eu lleoli yn y mer coch. Er nid yw mor weithgar a'r mer coch parencyma, mae'r stroma yn gysylltiedig yn anuniongyrchol yn waedfagu, gan ei fod yn darparu'r micro-amgylchedd gwaedfagol sy'n hyrwyddo'r waedfagu gan y celloedd parencymol. Er enghraifft, maent yn cynhyrchu ffactorau ysgogol cytref, sy'n cael effaith sylweddol ar waedfagu. Mae'r mathau o gelloedd sy'n cynnwys y stroma mer yn cynnwys:

  • ffibroblastau (meinwe gyswllt rhwydol)
  • macroffabau, sy'n cyfrannu'n sylweddol at gynhyrchiad cell goch y gwaed , gan eu bod yn mynd a Haearn ar gyfer cynhyrchiad hemoglobin
  • adypocytiau (celloedd bras)
  • osteoblastiau (asgwrn synseseiddio)
  • osteoclastiau (asgwrn atsugno)
  • celloedd endothelaidd, sy'n ffurfio'r sinwsoidau. Mae rhein yn deillio o'r bon-gell endothelaidd, sydd hefyd i'w weld yn y mer.
Cyfansoddiad celloedd y mer parencyma coch [5]
Grwp Math o gell
Ffracsiwn

Cymedredd

Ystod

Cyfeirnod

Celloedd

Myelopoietic

Myeloblasts 0.9% 0.2?1.5
Promyelocytes 3.3% 2.1?4.1
Myelosytau niwtroffilig 12.7% 8.2?15.7
Myelosytau eosinoffilig 0.8% 0.2?1.3
Metamyelosytau niwtroffilig 15.9% 9.6?24.6
Metamyelosytau eosinoffilig 1.2% 0.4?2.2
Neutrophilic band cells 12.4% 9.5?15.3
Eosinophilic band cells 0.9% 0.2?2.4
Segmented neutrophils 7.4% 6.0?12.0
Segmented eosinophils 0.5% 0.0?1.3
Segmented basophils and mast cells 0.1% 0.0?0.2
Celloedd

Erythropoietic

Pronormoblasts 0.6% 0.2?1.3
Basophilic normoblasts 1.4% 0.5?2.4
Polychromatic normoblasts 21.6% 17.9?29.2
Orthochromatic normoblast 2.0% 0.4?4.6
Mathau eraill o

gelloedd

Megakaryocytes < 0.1% 0.0-0.4
Plasma cells 1.3% 0.4-3.9
Reticular cells 0.3% 0.0-0.9
Lymphocytes 16.2% 11.1-23.2
Monocytes 0.3% 0.0-0.8

Gweithrediad [ golygu | golygu cod ]

Celloedd stromol mesencymaidd [ golygu | golygu cod ]

Mae stroma'r mer yn cynnwys celloedd stromol mesencymaidd (MSCau), adnabyddir hefyd fel celloedd stromol mer. Mae rhein yn celloedd stromol amlgref sy'n gallu addasu eu hunain i nifer o wahanol fathau o gelloed. Mae'n hysbys fod MSCau yn addasu, yn vitro neu'n vivo, i osteoblastau, condrostyau (celloedd cartilag), have been shown to differentiate, yn y groth neu mewn llestr, into osteoblasts, condrosytau, myosytau, marrow adipocytes and beta-pancreatic islets cells.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Vunjak-Novakovic, G.; Tandon, N.; Godier, A.; Maidhof, R.; Marsano, A.; Martens, T. P.; Radisic, M. (2010). "Challenges in Cardiac Tissue Engineering". Tissue Engineering Part B: Reviews 16 (2): 169?187. doi : 10.1089/ten.teb.2009.0352 .
  2. The Lymphatic System . Allonhealth.com. Retrieved 5 December 2011.
  3. "Antibody Transforms Stem Cells Directly Into Brain Cells" . Science Daily. 22 April 2013 . Cyrchwyd 24 April 2013 .
  4. "Research Supports Promise of Cell Therapy for Bowel Disease" . Wake Forest Baptist Medical Center . 28 February 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08 . Cyrchwyd 5 March 2013 .
  5. Appendix A:IV in Wintrobe's clinical hematology (9th edition). Philadelphia: Lea & Febiger (1993).