Rhan o bensaerniaeth
mosg
ydy
minaret
(lluosog: minaretau, minarets)
[1]
neu
minared
(lluosog: minaredau)
[2]
(
Arabeg
Safonol:
Manara
). Fel arfer,
t?r
sy'n codi'n uwch na'r adeiladau eraill ydyw. Pwrpas yw minaret ydy darparu lle uchel i'r muezzin i alw pobl i
weddio
.
Mae saith minaret i gyd yn y
Mosg Mawr
ym
Mecca
. Gan mai dyma'r mosg pwysicaf, dim ond uchafswm o chwe minaret sydd gan bob mosg arall, fel y
Mosg Glas
yn
Istanbwl
yn
Nhwrci
.
Yn ol rhai awdurdodau mae'r gair "minaret" yn deillio o'r bon
Arabeg
adhan
, sy'n golygu "galw". Daw tri air o'r bon hwnnw:
- galw i weddio (Arabeg: ???? ['aδ?n])
- muezzin (Arabeg: ???????? [mu'waδδin])
- minaret (Arabeg : ????????[mi'δana])
Fodd bynnag mae awdurdodau eraill yn dadlau mai'r gair
Arabeg
manara
("goleudy; man lle ceir tan neu oleuni") yw ffynhonnell y gair "minaret
(
manara
).
Mae'r ffurfiau Cymraeg "minaret" a "minared" yn dyddio o'r flwyddyn 1866.
[2]
Cynseiliau pensaerniol posibl
[
golygu
|
golygu cod
]
Awgrymir y canlynol fel cynseiliau pensaerniol i'r minaret:
- 1. Tyrau beddrod brodorol o ddiwedd y cyfnod clasurol, a welir yn
Palmyra
, er enghraifft.
- 2.
Obelisgs
yr hen
Aifft
.
- 3.
Massebah
- math arall o dyrau beddrod nodweddiadol
Semitaidd
- 4. Goleudai'r Hen Fyd, e.e.
Pharos Alexandria
.
- 5. Datblygiad naturiol o onglau dyrchafedig y mosg
Ummayad
cyntaf ym
Mecca
(a hynny'n mwynhau awdurdod sancteiddrwydd).
Mae sawl math gwahanol o finaret gan ddibynnu ar arddull pensaerniol y mosg. Fel rheol caeth eu dosbarthu'n fras mewn tri dosbarth hanesyddol: