Meimiwr

Oddi ar Wicipedia
Meimiwr
Enghraifft o'r canlynol galwedigaeth , galwedigaeth  Edit this on Wikidata
Math actor , perfformiwr  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Actor sy'n defnyddio dim ond ystumiau, symudiadau ac edrychiadau yn y theatr neu yng nghyd-dedstun celf berfformio yw meimiwr neu meimwraig . Mae meimiwyr yn arbenigo mewn actio straeon trwy symudiadau corfforol yn unig, heb lefaru.

Mae perfformio fel hyn yn draddodiad hynafol, ac mae'n dyddio'n ol i theatr Groeg yr Henfyd a Rhufain hynafol . [1] [2] Defnyddir y dechneg gan nifer o draddodiadau a diwylliannau ledled y byd, er enghraifft mewn theatr Indiaidd (yn benodol Kathakali ), a drama Japaneaidd Noh .

Yn dilyn llwyddiant y meimiwr mwyaf blaenllaw yn yr oes fodern, sef Marcel Marceau , daeth meim yn fath boblogaidd o theatr stryd mewn sawl gwlad.

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. "Mime and pantomime - visual art" . Encyclopedia Britannica (yn Saesneg) . Cyrchwyd 15 Tachwedd 2019 .
  2. H Nettleship (gol.), A Dictionary of Classical Antiquities (London 1894) p. 393 (Saesneg)