Gwaith y
meddyg
ydy gofalu a gwella ei
gleifion
drwy ddeiagnosio problemau'r claf ac yn trin yr
anaf
neu'r
afiechyd
. I'r perwyl hwn, mae'r meddyg yn astudio
meddygaeth
sy'n cynnwys
anatomi
,
ffisioleg
,
afiechydon
a'r
driniaeth
angenrheidiol.
Benthyciad o'r Lladin "medicus" sydd yma yn ol llawer, er bod rhai yn awgrymu mai o'r gair "medd" (a holl briodweddau meddygol mel y daw'r gair. Fe'i sgwennwyd gyntaf yn y Gymraeg yn y
13g
yn
Llyfr Du Caerfyrddin
. "Ffisigwr" yw'r gair arall amdano: gair Lladin am "natur" neu "naturiol".
Mae dau goleg yng Nghymru'n cynnig cyrsiau i fod yn feddyg:
Prifysgol Caerdydd
a
Phrifysgol Abertawe
. Maent yn para am oddeutu 6 mlynedd.